Codwch eich pen fry i’n Brenin mawr, Plygwch, molwch, cenwch iddo nawr I’w fawrhydi Ef, boed eich clod yn llawn, Pur a sanctaidd, rhowch ogoniant Nawr i Frenin nef. (fersiwn i’r plant:) Codwn ni ein llef, ffrindiau Brenin Nef. Dewch, ymunwch, cyd-addolwn Ef. Canwn, yn un côr, glod i’n Harglwydd Iôr; Mawl fo iddo, gweithiwn […]
Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]
Cofia bob amser, cofia bob tro, paid ag anghofio dweud, “Diolch”. Cofia bob amser, cofia bob tro, cofia ddweud, “Diolch, Iôr.” Diolch am fwyd bob dydd, am ddillad twym, am ‘sgidiau cryf. Cytgan Diolch am iechyd da, am nerth i weithio a mwynhau. Cytgan Diolch am gartref clyd, am wres a chysur gawn bob dydd. […]
Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio D’oriau gwerthfawr yn y byd, Cyn ehedeg draw oddi yma, P’un a gest ti’r trysor drud; Yn mha ardal bydd fy llety? Fath pryd hynny fydd fy ngwedd? P’un ai llawen, ai cystuddiol Fyddi y tu draw i’r bedd? Mae nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd maith o’m blaen, A […]
Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion, dy gyfiawnder fyddo’i grym: cadw hi rhag llid gelynion, rhag ei beiau’n fwy na dim: rhag pob brad, nefol Dad, taena d’adain dros ein gwlad. Yma mae beddrodau’n tadau, yma mae ein plant yn byw; boed pob aelwyd dan dy wenau, a phob teulu’n deulu Duw: rhag pob brad, nefol Dad, […]
Cofia’r byd, O Feddyg da, a’i flinderau; tyrd yn glau, a llwyr iachâ ei ddoluriau; cod y bobloedd ar eu traed i’th was’naethu; ti a’u prynaist drwy dy waed, dirion Iesu. Y mae’r balm o ryfedd rin yn Gilead, ac mae yno beraidd win dwyfol gariad; yno mae’r Ffisigwr mawr, deuwch ato a chydgenwch, deulu’r […]
Cofia’r newynog, nefol Dad, filiynau llesg a thrist eu stad sy’n llusgo byw yng nghysgod bedd, ac angau’n rhythu yn eu gwedd. Rho ynom dy dosturi di, i weld mai brodyr oll ŷm ni: y du a’r gwyn, y llwm a’r llawn, un gwaed, un teulu drwy dy ddawn. O gwared ni rhag in osgoi […]
Cofio ‘rwyf yr awr ryfeddol, awr wirfoddol oedd i fod, awr a nodwyd cyn bod Eden, awr a’i diben wedi dod, awr ŵynebu ar un aberth, awr fy Nuw i wirio’i nerth, hen awr annwyl prynu’r enaid, awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth? ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 512)
Cofir mwy am Fethlem Jwda, testun cân pechadur yw; cofir am y preseb hwnnw fu’n hyfrydwch cariad Duw: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef oedd cadw’r byd. Cofir mwy am Gethsemane lle’r ymdrechodd Mab y Dyn; cofir am y weddi ddyfal a weddïodd wrtho’i hun: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef […]
Cofiwn am gomisiwn Iesu cyn ei fyned at y Tad: “Ewch, pregethwch yr Efengyl, gwnewch ddisgyblion ymhob gwlad.” Deil yr Iesu eto i alw yn ein dyddiau ninnau nawr; ef sy’n codi ac yn anfon gweithwyr i’w gynhaeaf mawr. Cofiwn am addewid Iesu adeg ei ddyrchafael ef: “Byddaf gyda chwi’n wastadol pan ddaw arnoch nerth […]