Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef, da yw Duw, fe ddathlwn ni: da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym, da yw Duw, hyn wyddom ni. Llenwi â mawl mae fy nghalon i am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio: ac yn ei galon mae lle i mi, rhedeg wnaf â’m breichiau ar […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]
Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau heb hidio dim am newyn ein heneidiau; maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau gwir Fara’r Bywyd. Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni, yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu; maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu Ffynnon y Bywyd. Cod ni, O Dduw, o […]
Da yw y groes, y gwradwydd, Y gwawd, a’r erlid trist, Y dirmyg a’r cystuddiau, Sydd gyda Iesu Grist; Cans yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A thrysor yn ei gariad Sy fwy na’n daear ni. (W.W.) Rho brofi grym ei gariad Sy’n annherfynol fôr, I’m tynnu tua’r bywyd, Fy […]
Dacw gariad nefoedd wen Yn disgleirio ar y pren; Dacw daledigaeth lawn I ofynion trymion iawn; Iesu gollodd ddwyfol waed, Minnau gafodd wir iachâd. Na ddoed gwael wrthrychau’r byd I gartrefu yn fy mryd; Digon f’enaid, digon yw Myfyrdodau dwyfol friw; Mae mwy pleser yn ei glwy’ Na’u llawenydd pennaf hwy. William Williams, Pantycelyn (Y […]
Dacw gariad, dacw bechod, Heddiw ill dau ar ben y bryn; Hwn sydd gryf, hwnacw’n gadarn, Pwy enilla’r ymgyrch hyn? Cariad, cariad Wela’i ‘n perffaith gario’r dydd. Dringa’ i fyny i’r Olewydd, I gael gweled maint fy mai; Nid oes arall, is yr wybren, Fan i’w weled fel y mae; Annwyl f’enaid Yno’n chwysu dafnau […]
Dacw’r ardal, dacw’r hafan, Dacw’r nefol hyfryd wlad, Dacw’r llwybyr pur yn amlwg, ‘R awron tua thŷ fy Nhad; Y mae hiraeth yn fy nghalon, Am fod heddiw draw yn nhref, Gyda’r myrdd sy’n canu’r anthem, Anthem cariad “Iddo Ef”. Mae fy hwyliau heddiw’n chware’n, Llawen yn yr awel bur, Ac ‘r wy’n clywed sŵn […]
Dacw’r hyfryd fan caf drigo, Gwn caf drigo cyn bo hir, Dros y bryniau oer tymhestlog, Yn y sanctaidd hyfryd dir: Gwela’n awr fore wawr Glir, o dragwyddoldeb mawr. Ni gawn yno weld a garwn, Mewn gogoniant llawer mwy Nag ei gwelsom ar y croesbren Dan ei farwol ddwyfol glwy’; Lluoedd mawr sydd yn awr […]
Dad yn y nefoedd, Bydded i dy enw di Gael clod drwy’r byd i gyd. Dad yn y nefoedd, Deled nawr dy deyrnas A gwneler dy ewyllys di. Wnei di f’arwain i gyda’th olau Sanctaidd? Rwyf am roi i ti bob awr sydd o’m bywyd, A sychedu wnaf o ddyfnderoedd f’enaid. Fe’th addolaf di o’r […]
Dad yn y nefoedd, o, fe’th garwn; Cyhoeddwn d’enw drwy’r holl fyd. Boed i’th Deyrnas ddod i’n plith ni wrth i’n foli, A lledaened dy ras a’th gariad drud. Fendigedig Dduw hollalluog! A fu, ag sydd, ac eto’i ddod, Fendigedig Dduw hollalluog! I dragwyddoldeb mwy. Father in Heaven, how we love you: Bob Fitts, cyf.awdurdodedig, […]