Mae’r cerddoriaeth ar gael o wefan Bethel Music – www.bethelmusic.com. I wrando ar y gân yn Saesneg dilynwch y ddolen youtube isod. Mae’r sêr yn wylo’n brudd A’r haul yn farw fud, Gwaredwr mawr y byd yn farw Yn gelain ar y groes; Fe waedodd er ein mwyn A phwys holl feiau’r byd oedd arno. […]
Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd a gwyrth y geni ymhob crud, a gweld rhyfeddol liwiau’r byd, i ti y rhoddwn fawl. Am roi dy nodau ar bob tant, dy felys swyn ar wefus plant ac asbri hen yn nawns y nant, i ti y rhoddwn gân. Am gael ein dysgu, gam a cham, am […]
Am dy ddirgel ymgnawdoliad diolch i ti; am yr Eglwys a’i thraddodiad diolch i ti; clod it, Arglwydd ein goleuni, am rieni a chartrefi a phob gras a roddir inni: diolch i ti! Pan mewn gwendid bron ag ildio mi gawn dydi; pan ar goll ar ôl hir grwydro mi gawn dydi; wedi ffoi ymhell […]
Am dy gysgod dros dy Eglwys drwy’r canrifoedd, molwn di; dy gadernid hael a roddaist yn gynhaliaeth iddi hi: cynnal eto briodasferch hardd yr Oen. Am dy gwmni yn dy Eglwys rhoddwn glod i’th enw glân; buost ynddi yn hyfrydwch, ac o’i chylch yn fur o dân: dyro brofiad o’th gymdeithas i barhau. Am dy […]
Am ffydd, nefol Dad, y deisyfwn, i’n cynnal ym mrwydrau y byd; os ffydd yn dy arfaeth a feddwn, diflanna’n hamheuon i gyd; o gastell ein ffydd fe rodiwn yn rhydd ac ar ein gelynion enillwn y dydd. Am obaith, O Arglwydd, erfyniwn, i fentro heb weled ymlaen; os gobaith dy air a dderbyniwn, daw’r […]
Am fod fy Iesu’n fyw, byw hefyd fydd ei saint; er gorfod dioddef poen a briw, mawr yw eu braint: bydd melus glanio draw ‘n ôl bod o don i don, ac mi rof ffarwel maes o law i’r ddaear hon. Ac yna gwyn fy myd tu draw i’r byd a’r bedd: caf yno fyw […]
Am gael cynhaeaf yn ei bryd dyrchafwn foliant byw; fe gyfoethogwyd meysydd byd gan fendith afon Duw. O ffynnon glir haelioni’r nef y tardd yn hardd a byw, ac am ei fawr ddaioni ef y dywed afon Duw. O hon yr yf gronynnau’r llawr a’r egin o bob rhyw; nid ydyw gemog wlith y wawr […]
I ti, O Dad, diolchwn. Am heulwen glir ac awel fwyn, i ti, O Dad, diolchwn; am harddwch ir pob maes a llwyn, i ti, O Dad, diolchwn; am flodau tlws a blagur mân, am goed y wig a’u lliwiau’n dân, am adar bach a’u melys gân, i ti, O Dad, diolchwn. Am ddail y […]
Am iddo fynd i Galfarî mae’n rhaid coroni’r Iesu; byth ni fodlonir teulu’r nef heb iddo ef deyrnasu. Griddfannau dwys y cread sydd am weled dydd yr Iesu; o fyd i fyd datseinia’r llef: rhaid iddo ef deyrnasu. Bydd llai o ddagrau, llai o boen, pan gaiff yr Oen ei barchu; caiff daear weled dyddiau’r […]
Am iddo gynnig ei iachâd a balm i glwyfau’r byd, a throi’r tywyllwch dilesâd yn fore gwyn o hyd, moliannwn ef, moliannwn ef sy’n rhoi i’r ddaear harddwch nef. Am iddo roddi cyfle glân i fyw yn ôl ei air, a deffro ynom newydd gân wrth gofio baban Mair, moliannwn ef, moliannwn ef sy’n rhoi […]