Iesu fy mrenin! Ti yw’r Emaniwel! Frenin nef, Arglwydd glân, Seren y wawr. Ac i dragwyddoldeb mwy canaf dy foliant, A theyrnasu wnawn i dragwyddoldeb mwy. Dave Moody (All hail King Jesus!) cyf. Arfon Jones ©Tempo Music Publications/Word Music (UK) 1981 Gwein.gan Copycare (Grym Mawl 1:3)
Iesu Grist o’r nef a ddaeth, Haleliwia! I Galfaria fryn yr aeth, Haleliwia! Marw wnaeth dros euog fyd, Haleliwia! Rhodder iddo’r clod i gyd, Haleliwia! Rhoddodd Iawn ar bren y groes, Haleliwia! I’n rhyddhau o feiau’n hoes, Haleliwia! Llawen floeddied nef a llawr, Haleliwia! Teilwng wyt, O Geidwad mawr, Haleliwia! Yn lle’r groes, cadd orsedd […]
Iesu Grist sydd yn ben, Holl gyflawnder ein Duw ynddo mae; Ac fe’n geilw ni i’w ddilyn ef, Trwy ei atgyfodiad mawr Fe’n hachub yn awr. Gwir ddelw’r Duw anweledig yw Ef, Y cyntafanedig ydyw. Gwir Fab y Tad Nefol a greodd bob peth; Gorsedd a grym a’r holl awdurdodau cryf. Iesu sy’n ben ac […]
Iesu Grist, myfyriaf ar dy aberth di – Ildiaist ti bopeth a marw i mi. Lawer tro, rhyfeddais i ti f’achub i – Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof, Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof. Ac unwaith eto syllu wnaf ar groes Calfari, A sylweddoli dyfnder gras dy gariad i mi. Diolch i ti eto […]
Iesu hawddgar, rho dy feddwl anhunanol ynof fi, fel y parchaf eiddo eraill megis ag y gwnaethost ti: gostyngedig fuost beunydd ac yn ddibris buost fyw; dyrchafedig wyt ym mhobman am ymwadu â ffurf Duw. Gwn dy wneuthur ar lun dynion; ar ffurf gwas y treuliaist d’oes a’th ddarostwng di dy hunan, ufuddhau hyd angau’r […]
Iesu roes addewid hyfryd cyn ei fynd i ben ei daith yr anfonai ef ei Ysbryd i roi bywyd yn ei waith; dawn yr Ysbryd, digon i’r disgyblion fu. Cofiodd Iesu ei addewid; O cyflawned hi yn awr, fel y gwnaeth ar ddydd y Sulgwyn pan achubwyd tyrfa fawr; enw Iesu gaiff yr holl ogoniant […]
Ioan 10 Iesu ti yw drws pob gobaith, Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw, Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau Er ein beiau, y cawn fyw. Fel y bu i’r defaid ddilyn Ôl dy droed, dros lwybrau maith, Credwn mai diogel fyddwn Er peryglon mwya’n taith. Ti yw bugail mawr y defaid, Sydd o hyd yn […]
Iesu tirion, edrych arnaf mewn iselder, poen a chur, dyro im dy ddwyfol Ysbryd a’i ddiddanwch sanctaidd, pur; pan wyt ti yn rhoi dy ŵyneb y mae llewyrch yn dy wedd sy’n gwasgaru pob amheuaeth ac yn trechu ofnau’r bedd. Edrych arnaf mewn tosturi pan fo cysur byd yn ffoi; yng nghyfyngder profedigaeth atat ti […]
Iesu tirion, gwêl yn awr blentyn bach yn plygu i lawr: wrth fy ngwendid trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da. Carwn fod yn eiddot ti; Iesu grasol, derbyn fi; gad i blentyn bach gael lle, drwy dy ras, yn nheyrnas ne’. Carwn fod fel ti dy hun, meddu calon ar dy lun; addfwyn, tirion iawn […]
Iesu yw’r Iôr! – y gri sy’n atsain drwy y cread, Disglair Ei rym, tragwyddol Air, ein Craig. Gwir Fab ein Duw, sy’n llenwi’r nefoedd â’i ogoniant, Sy’n ein gwahodd i brofi’r Bara byw. Iesu yw’r Iôr – a’i lais sy’n cynnal y planedau, Ond rhoes o’r neilltu goron nef o’i ras. Iesu y dyn, […]