Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]
Cofio ‘rwyf yr awr ryfeddol, awr wirfoddol oedd i fod, awr a nodwyd cyn bod Eden, awr a’i diben wedi dod, awr ŵynebu ar un aberth, awr fy Nuw i wirio’i nerth, hen awr annwyl prynu’r enaid, awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth? ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 512)
Cofir mwy am Fethlem Jwda, testun cân pechadur yw; cofir am y preseb hwnnw fu’n hyfrydwch cariad Duw: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef oedd cadw’r byd. Cofir mwy am Gethsemane lle’r ymdrechodd Mab y Dyn; cofir am y weddi ddyfal a weddïodd wrtho’i hun: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef […]
Craig yr oesoedd, cuddia fi, er fy mwyn yr holltwyd di; boed i rin y dŵr a’r gwaed gynt o’th ystlys friw a gaed fy nglanhau o farwol rym ac euogrwydd pechod llym. Ni all gwaith fy nwylo I lenwi hawl dy gyfraith di; pe bai im sêl yn dân di-lyth a phe llifai ‘nagrau […]
Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Newid wnaeth ogoniant nefol Am ddioddefaint Calfari. Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Canaf gyda’r dyrfa freiniol Fry gerllaw y grisial li. Bûm ar goll, ond Crist am cafodd, Do, yr oen grwydredig bell; Cododd fi a’m […]
Cymer, Iesu, fi fel ‘rydwyf, fyth ni allaf fod yn well; d’allu di a’m gwna yn agos, f ‘wyllys i yw mynd ymhell: yn dy glwyfau bydda’ i’n unig fyth yn iach. Mi ddiffygiais deithio’r crastir dyrys, anial wrthyf f’hun; ac mi fethais a choncwerio, o’m gelynion lleiaf, un: mae dy enw ‘n abl i […]
Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr; a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud fel afon gref, lifeiriol dros y byd. […]
Da yw y groes, y gwradwydd, Y gwawd, a’r erlid trist, Y dirmyg a’r cystuddiau, Sydd gyda Iesu Grist; Cans yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A thrysor yn ei gariad Sy fwy na’n daear ni. (W.W.) Rho brofi grym ei gariad Sy’n annherfynol fôr, I’m tynnu tua’r bywyd, Fy […]
Dacw gariad nefoedd wen Yn disgleirio ar y pren; Dacw daledigaeth lawn I ofynion trymion iawn; Iesu gollodd ddwyfol waed, Minnau gafodd wir iachâd. Na ddoed gwael wrthrychau’r byd I gartrefu yn fy mryd; Digon f’enaid, digon yw Myfyrdodau dwyfol friw; Mae mwy pleser yn ei glwy’ Na’u llawenydd pennaf hwy. William Williams, Pantycelyn (Y […]
Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli o ffrwyth yr arfaeth fawr yn awr i ni; hen iachawdwriaeth glir aeth dros y crindir cras; bendithion amod hedd: O ryfedd ras! Cymerodd Iesu pur ein natur ni, enillodd ef i’w saint bob braint a bri; fe ddaeth o’r nef o’i fodd, cymerodd agwedd was; ffrwyth […]