logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen,

Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr; a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud fel afon gref, lifeiriol dros y byd. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Cofio ‘rwyf yr awr ryfeddol

Cofio ‘rwyf yr awr ryfeddol, awr wirfoddol oedd i fod, awr a nodwyd cyn bod Eden, awr a’i diben wedi dod, awr ŵynebu ar un aberth, awr fy Nuw i wirio’i nerth, hen awr annwyl prynu’r enaid, awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth? ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 512)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Caed modd i faddau beiau

Caed modd i faddau beiau a lle i guddio pen yng nghlwyfau dyfnion Iesu fu’n gwaedu ar y pren; anfeidrol oedd ei gariad, anhraethol oedd ei gur wrth farw dros bechadur o dan yr hoelion dur. Un waith am byth oedd ddigon i wisgo’r goron ddrain; un waith am byth oedd ddigon i ddiodde’r bicell […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Cofir mwy am Fethlem Jwda

Cofir mwy am Fethlem Jwda, testun cân pechadur yw; cofir am y preseb hwnnw fu’n hyfrydwch cariad Duw: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef oedd cadw’r byd. Cofir mwy am Gethsemane lle’r ymdrechodd Mab y Dyn; cofir am y weddi ddyfal a weddïodd wrtho’i hun: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Cof am y cyfiawn Iesu

Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Clywch beroriaeth swynol

Clywch beroriaeth swynol engyl nef yn un yn cyhoeddi’r newydd, eni Ceidwad dyn: canant odlau’r nefoedd uwch ei isel grud wrth gyflwyno Iesu, Brenin nef, i’r byd. Bore’r greadigaeth mewn brwdfrydedd byw canai sêr y bore, canai meibion Duw: bore’r ymgnawdoliad canai’r nef ynghyd, tra oedd Duw mewn cariad yn cofleidio’r byd. SPINTHER, 1837-1914 (Caneuon […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015

Clywch lu’r nef yn seinio’n un

Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn: heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr. Dewch, bob cenedl is y rhod, unwch â’r angylaidd glod, bloeddiwch oll â llawen drem, ganwyd Crist ym Methlehem: Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn! Crist, Tad tragwyddoldeb […]


Cariad Iesu Grist

Cariad Iesu Grist, cariad Duw yw ef: cariad mwya’r byd, cariad mwya’r nef. Gobaith plant pob oes, gobaith dynol-ryw, gobaith daer a nef ydyw cariad Duw. Bythol gariad yw at y gwael a’r gwan, dilyn cariad Duw wnelom ymhob man. Molwn gariad Duw ar bob cam o’r daith, canu iddo ef fydd yn hyfryd waith. […]


Cyduned nef a llawr

Cyduned nef a llawr i foli’n Harglwydd mawr mewn hyfryd hoen; clodforwn, tra bo chwyth, ei ras a’i hedd di-lyth, ac uchel ganwn byth: “Teilwng yw’r Oen.” Tra dyrchaif saint eu cân o gylch yr orsedd lân, uwch braw a phoen, O boed i ninnau nawr, drigolion daear lawr, ddyrchafu’r enw mawr: “Teilwng yw’r Oen.” […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Cyduned trigolion y ddaear i gyd

Cyduned trigolion y ddaear i gyd mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd; mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw: troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw. I gadw’r colledig, o’r nefoedd y daeth rhoi bywyd i’r marw a rhyddid i’r caeth; am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd a bywyd tragwyddol drwy haeddiant ei […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015