Mae’r Duw anfeidrol mewn trugaredd, er mai Duw y cariad yw, wrth ei gofio, imi’n ddychryn, imi’n ddolur, imi’n friw; ond ym mhabell y cyfarfod y mae ef yn llawn o hedd, yn Dduw cymodlon wedi eistedd heb ddim ond heddwch yn ei wedd. Cael Duw yn Dad, a Thad yn noddfa, noddfa’n graig, a’r […]
Mae addewidion melys wledd yn gyflawn ac yn rhad yn dy gyfamod pur o hedd, tragwyddol ei barhad. ‘Rwyf finnau yn dymuno dod i’r wledd ddanteithiol, fras, ac felly mi gaf seinio clod am ryfedd rym dy ras. O rhwyma fi wrth byst dy byrth i aros tra bwyf byw, i edrych ar dy wedd […]
Mae gennyf ddigon yn y nef ar gyfer f’eisiau i gyd; oddi yno mae y tlawd a’r gwael yn cael yn hael o hyd. O law fy Nuw fe ddaw’n ddi-feth fy mywyd i a’m nerth, fy iechyd, synnwyr, a phob peth, fy moddion oll, a’u gwerth. O law fy Nuw y daw, mi wn, […]
Mawr ddyled arnom sydd i foli Iôr y nef, wrth weld o ddydd i ddydd mor dirion ydyw ef; ef yw ein Craig, ein tŵr a’n maeth; y flwyddyn hon ein cofio wnaeth. Ni all tafodau byw holl ddynol-ryw yn un fyth ddatgan gymaint yw ei gariad ef at ddyn; efe sy’n darpar, ar ei […]
Molwch ar yr utgorn a thympan a dawns, molwch ar y nabl ac ar delyn, molwch, molwch enw yr Iôr: molwch ar y symbal llafar, molwch ar y symbal llafar, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr, Haleliwia! molwch yr Iôr, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr Haleliwia! […]
Mae’r nefoedd faith uwchben yn datgan mawredd Duw, mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd yn dweud mai rhyfedd yw. Fe draetha dydd i ddydd a nos i nos o hyd ymhob rhyw faith, ymhob rhyw le, am Grëwr doeth y byd. Ond yn ei gyfraith lân fe’i dengys Duw ei hun yn Dduw […]
Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad lle mae fy heddwch llawn: O am gael teimlo’i gwleddoedd pur o fore hyd brynhawn. ‘Does dim difyrrwch yma i’w gael a leinw f’enaid cu ond mi ymborthaf ar y wledd sy gan angylion fry. ‘Ddiffygia’ i ddim, er cyd fy nhaith tra pery gras y nef, ac er cyn […]
Mi edrychaf ar i fyny, deued t’wyllwch, deued nos; os daw heddwch im o unlle, daw o haeddiant gwaed y groes; dyna’r man y gwnaf fy nhrigfan, dyna’r man gobeithiaf mwy: nid oes iechyd fyth i’m henaid ond mewn dwyfol, farwol glwy’. Gobaith f’enaid yw ei haeddiant, gobaith f’enaid yw ei rym; tlawd a llesg […]
Mi ganaf tra bo anadl o fewn i’r ffroenau hyn am gariad yn dioddef ar ben Calfaria fryn, am goron ddrain blethedig, am hoelion garwa’u rhyw, gannu f’enaid euog fel eira gwynna’i liw. Fe rwygwyd muriau cedyrn, fe dorrwyd dorau pres oedd rhyngom ni a’r bywyd, mae’r bywyd heddiw’n nes; palmantwyd yr holl lwybrau, mae’r […]
Mi dafla’ ‘maich oddi ar fy ngwar wrth deimlo dwyfol loes; euogrwydd fel mynyddoedd byd dry’n ganu wrth dy groes. Os edrych wnaf i’r dwyrain draw, os edrych wnaf i’r de, ymhlith a fu, neu ynteu ddaw, ‘does debyg iddo fe. Fe roes ei ddwylo pur ar led, fe wisgodd goron ddrain er mwyn i’r […]