Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr, am law fy Ngheidwad y diolchaf i â’i gafael ynof er nas gwelaf hi. Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau a blinder byd yn peri im lesgáu, gwn am y llaw a all fy nghynnal i â’i gafael ynof er nas […]
Pan glywir sŵn chwalu cadwynau o draw a hedd yn teyrnasu lle cynt y bu braw, fe wyddom fod yntau ar ymdaith o hyd, yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd. Pan glywir y moliant yn dod dros y don a’r weddi o’r carchar heb ddig dan y fron, fe wyddom fod yntau ar ymdaith […]
Pan guddio’r nos y dydd, A’r gân yn troi yn gri, Cynlluniau dyn yn drysu ffydd, O! Arglwydd cofia fi. Pan ollwng cymyl prudd Eu dafnau oer yn lli, Pan ddeffry’r gwynt a’i nerthoedd cudd O! Arglwydd cofia fi. Ti gofiaist waelion byd, Maddeuaist fyrdd di-ri’; Dy ras sy’n fôr heb drai o hyd; O! […]
Pan gwyd ein Duw drachefn Gwasgerir ei elynion; A ffy ei gaseion Oll o’i flaen ef. Pan gwyd ein Duw drachefn Gwasgerir ei elynion; A ffy ei gaseion Oll oi flaen. (Dynion) Y cyfiawn gaiff lawenhau, (Merched) A gaiff lawenhau, (Dynion) A gorfoleddu o’i flaen; (Merched) A gorfoleddu o’i flaen (Dynion) Cânt ymhyfrydu ynddo ef. […]
Pan oedd Iesu dan yr hoelion yn nyfnderoedd chwerw loes torrwyd beddrod i obeithion ei rai annwyl wrth y groes; cododd Iesu! Nos eu trallod aeth yn ddydd. Gyda sanctaidd wawr y bore teithiai’r gwragedd at y bedd, clywid ing yn sŵn eu camre, gwelid tristwch yn eu gwedd; cododd Iesu! Ocheneidiau droes yn gân. […]
Pan rwystrir ni gan bethau’r llawr i weled ei ogoniant mawr, gwyn fyd y pur o galon sydd yn gweled Duw drwy lygaid ffydd. Pan welir dynion balch eu bryd yn ceisio ennill yr holl fyd, gwyn fyd yr addfwyn, meddai ef, sy’n etifeddion daer a nef. Pan welir chwalu teulu’r Tad gan ryfel gyda’i […]
Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd, Nid ofnaf fi. Pan yn cerdded drwy’r fflamau, Fyth ni’m llosgir i; Rwyt wedi fy achub. Fe delaist y pris; Gelwaist ar fy enw i. Rwyf yn eiddo llwyr i ti A gwn dy fod ti yn fy ngharu – Mor ddiogel yn dy gariad. Pan mae’r llif yn fy […]
Pe meddwn aur Periw A pherlau’r India bell, Mae gronyn bach o ras fy Nuw Yn drysor canmil gwell. Pob pleser is y rhod A dderfydd maes o law; Ar bleser uwch y mae fy nod, Yn nhir y bywyd draw. Dymunwn ado’n lân Holl wag deganau’r llawr, A phenderfynu fynd ymlaen Ar ôl fy […]
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw, Llawn o archollion o bob rhyw, Yn byw mewn eisiau gwaed y groes Bob munud awr o’r dydd a’r nos! Yng nganol cyfyngderau lu, A myrddiwn o ofidiau du, Gad imi roddi pwys fy mhen I orffwys ar dy fynwes wen. Gad imi dreulio ‘nyddiau i gyd I edrych […]
Pechadur wyf, O Arglwydd, sy’n curo wrth dy ddôr; erioed mae dy drugaredd ddiddiwedd imi’n stôr: er iti faddau beiau rifedi’r tywod mân gwn fod dy hen drugaredd lawn cymaint ag o’r blaen. Dy hen addewid rasol a gadwodd rif y gwlith o ddynion wedi eu colli a gân amdani byth; er cael eu mynych […]