Dyro inni weld o’r newydd mai ti, Arglwydd, yw ein rhan; aed dy bresenoldeb hyfryd gyda’th weision i bob man: tyrd i lawr, Arglwydd mawr, rho dy fendith yma nawr. Ymddisgleiria yn y canol, gwêl dy bobol yma ‘nghyd yn hiraethu, addfwyn Iesu, am gael gweld dy ŵyneb-pryd; golau cry’ oddi fry chwalo bob rhyw […]
Dysg imi garu Cymru, ei thir a’i broydd mwyn, rho help im fod yn ffyddlon bob amser er ei mwyn; O dysg i mi drysori ei hiaith a’i llên a’i chân fel na bo dim yn llygru yr etifeddiaeth lân. Dysg imi garu cyd-ddyn heb gadw dim yn ôl, heb ildio i amheuon nac unrhyw […]
Dywed air ac fe’n hiacheir, Ti yw’r Ffisigwr dwyfol Liniara bob poen. Dywed air ac fe’n rhyddheir, Fe ddryllir y cadwyni Sy’n ein dal ni mor gaeth, Dywed air. Dywed air, llonydda fi; Dywysog ein tangnefedd, Tawela bob storm. Dywed air, diwalla fi, Rho imi’r dyfroedd bywiol Dry’n ffynnon lân o’m mewn. Dywed air. Syrthiodd […]
Dywedwyd ganwaith na chawn fyw gan anghrediniaeth hy, ond ymddiriedaf yn fy Nuw: mae’r afael sicraf fry. Cyfamod Duw a’i arfaeth gref yn gadarn sydd o’m tu anghyfnewidiol ydyw ef: mae’r afael sicraf fry. Er beiau mawrion rif y dail a grym euogrwydd du Iawn ac eiriolaeth Crist yw’r sail: mae’r afael sicraf fry. Rhagluniaeth […]
Edrych ar y rhai sy’n ceisio yn dy Eglwys le yn awr, dyro iddynt nerth i gofio am eu llw i’r Ceidwad mawr; cadw hwy’n ddiogel beunydd drwy holl demtasiynau’r daith, dan gawodydd gras rho gynnydd ar eu bywyd yn dy waith. O bugeilia di fyfyrdod y disgyblion ieuainc hyn, dangos iddynt fawr ryfeddod aberth […]
Edrych arnaf mewn tangnefedd – Dy dangnefedd hyfryd, mae Fel rhyw afon fawr lifeiriol, Yn ddiddiwedd yn parhau: Môr o hedd yw dy wedd Sy’n goleuo’r byd a’r bedd. Maddau fel y cyfeiliornais, Weithiau i’r dwyrain, weithiau i’r de; Maddau drachwant cas fy nghalon I ymado i maes o dre’; Dwg yn ôl f’ysbryd ffôl, […]
Edrych o’th flaen, ac fe weli wyrthiau Duw; Cod dithau’th lais i ddiolch am gael byw. O, Dduw ein Tad, Fe ganwn ni Haleliwa, o fawl i ti. Carl Tuttle: Open your eyes, cyfieithiad awdurdodedig: Nest Ifans © Mercy Publishing/Thankyou Music 1985. Gwein. Gan Copycare (Grym Mawl 1: 132)
Edrycha’r glas ‘na yn yr awyr siapiau hardd cymylau gwyn, Y gwynt yn chwythu ar fy ngwyneb a’i sŵn yn rhuthro ble y mynn. Sut faswn i petawn i yno y dydd croeshoeliwyd Iesu cu, Pan rwygwyd llen y deml’n hanner a threchwyd grym marwolaeth du? Mae’r greadigaeth yn disgwyl, mae’r greadigaeth yn disgwyl, Mae’r […]
Ef yw yr Iôr, teyrnasa’n y nef; Ef yw yr Iôr. Fe greodd mewn t’wyllwch oleuni â’i lef; Ef yw yr Iôr. Pwy sy’n debyg i hwn – r’Hen Ddihenydd yw Ef; Ef yw yr Iôr. Daw atom, ei bobl, yn nerthol o’r nef; Ef yw yr Iôr. Anfon d’allu, O Dduw ein Iôr; Anfon […]
Mae’r gwynt yn awr yn rhuo Ond ni chaf fy siglo, Fe wn i, mae E wrth y llyw. Mae’r Un sy’n fwy o’m mewn i Yn fwy na beth sy’n f’erbyn, Fe wn i, mae E wrth y llyw Fe’m cynnal i fel o’r blaen, Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr; Nid ofnaf mwy, […]