Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
Pennill 1 Rhodd o’r fath ras yw Iesu fy Ngwaredwr Cans nid oes mwy y gall y nef ei roi Ef yw ‘nghyfiawnder, rhyddid a’m llawenydd Fy nghariad triw, a’m dwfn di-derfyn hedd Cydiaf yn hyn, mae ‘ngobaith i yn Iesu Mae ‘mywyd oll ynghlwm â’i fywyd Ef Am ryfeddod o’r nef, dyma ‘nghân, codaf […]
Nid oes eisiau un creadur Yn bresennol lle bo Duw; Mae E’n fwyd, y mae E’n ddiod, Nerth fy natur egwan yw: Pob hapusrwydd Sydd yn aros ynddo’i Hun. Gyrrwch fi i eithaf twllwch, Hwnt i derfyn oll sy’n bod, I ryw wagle dudew anial, Na fu creadur ynddo ‘rioed; Hapus hapus Fyddaf yno gyda […]
Nid oes enw gwell na Iesu, enw’r hwn sydd yn gwaredu, deuwn ato yn un teulu, plygwn iddo ef. Deued ato blant y gwledydd, iddynt hwy y mae’n arweinydd, dilyn Iesu sy’n llawenydd, O canlynwn ef. Bydded i bobol pob gwlad a thref godi eu lleisiau yn llon eu llef, chwydded y gân gan dyrfa […]
Nid oes gobaith i mi mwy Tra bo ‘mhechod yn rhoi clwy, Tra bo ‘nghalon heb ddim gras Ar ymffrostio yn cael blas. Sanctaidd Dad, O clyw fy llef, Rho im hiraeth am y nef, Dal fi yn y cariad drud Nes y byddwyf lân i gyd. Nid oes neb a’m deil i’r lan Tra […]
Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn, A leinw f’enaid bach yn llawn, Ni allwn ddal dim mwy pe cawn, Mae Ef yn ddigon mawr: A digon, digon, digon yw Dy hyfryd bresenoldeb gwiw, Yn angau ceidw hyn fi’n fyw, A bodlon wyf yn awr. A phe diffoddai’r heulwen fawr, Pe syrthiai sêr y nen […]
(Rhinweddau enw Iesu) Nid oes pleser, nid oes tegan Nid oes enw mewn un man, Er ei fri a’i holl ogoniant, Fyth a lesia i’m henaid gwan Ond fy Iesu: Ef ei Hunan yw fy Nuw. Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae tegwch ragor Nag a welodd […]
‘Calon Lân’ Nid wy’n gofyn bywyd moethus, aur y byd na’i berlau mân, gofyn ‘rwyf am galon hapus, calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, tecach yw na’r lili dlos; dim ond calon lân all ganu, canu’r dydd a chanu’r nos. Pe dymunwn olud bydol chwim adenydd iddo sydd; golud calon lân, rinweddol […]
Ysbrydolioaeth Beiblaidd (Datguddiad 1:6) Nyni sydd ar y llawr yn ddim, Wnaeth E’n frenhinoedd nêf, Angylion Duw yn dal ein llaw A’n tywys tua thref. Edrychwn ar frenhinoedd byd Yn drist am fod i’r rhain, Ein gweld, sydd ar y llawr, yn neb, Cyff gwawd a choron ddrain. Ond cerddwn wastad gydag Ef; Glân yn […]
O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]