Iesu Grist, myfyriaf ar dy aberth di – Ildiaist ti bopeth a marw i mi. Lawer tro, rhyfeddais i ti f’achub i – Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof, Meddyliau fel hyn ddaw i’m cof. Ac unwaith eto syllu wnaf ar groes Calfari, A sylweddoli dyfnder gras dy gariad i mi. Diolch i ti eto […]
Iesu tirion, gwêl yn awr blentyn bach yn plygu i lawr: wrth fy ngwendid trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da. Carwn fod yn eiddot ti; Iesu grasol, derbyn fi; gad i blentyn bach gael lle, drwy dy ras, yn nheyrnas ne’. Carwn fod fel ti dy hun, meddu calon ar dy lun; addfwyn, tirion iawn […]
Iesu yw’r Iôr! – y gri sy’n atsain drwy y cread, Disglair Ei rym, tragwyddol Air, ein Craig. Gwir Fab ein Duw, sy’n llenwi’r nefoedd â’i ogoniant, Sy’n ein gwahodd i brofi’r Bara byw. Iesu yw’r Iôr – a’i lais sy’n cynnal y planedau, Ond rhoes o’r neilltu goron nef o’i ras. Iesu y dyn, […]
Iesu, ’r enw anrhydeddwn, Iesu, ’r enw folwn ni. Mae’n enw sydd goruwch pob enw arall; Datgan nef a daear oll Fod Iesu’n wir Fab Duw. Fe addolwn ni a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo ynghyd. Fe addolwn ni, a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo drwy’r byd. Iesu, ’r enw a addolwn, Ynddo ymddiriedwn ni. […]
Iesu, anfon weithwyr lu, O, mae eu hangen hwy. Mae’r tir yn barod i’w fedi, Y caeau’n aeddfed mwy. Ond Arglwydd cymer fi, Iesu, o cymer fi. Pwy a â drosot ti? Pwy a â drosot ti? Dyma fi nawr – Af fi, ie fi, Iôr, Af fi. O na welem Gymru’n troi Yn dyrfa […]
Os oes syched arnaf fi Mentra ato Ef; Ni chei orffwys heb ei ras, Mentra ato Ef; Os wyf wan Mae Iesu’n dweud: Mentra ato Ef; Neb ond Ef fydd imi’n nerth: Mentra ato Ef; Cytgan Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon, Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw. Y mae croeso’m mreichiau Iesu: Cryf, caredig […]
Pwy sydd yn codi’r meirw’n fyw? a’n rhyddhau o’n cyflwr briw? Ein gobaith yw, unig Fab Duw. Iesu, dim ond Iesu. Pwy all agor llygaid dall? Pwy all ryddhau o law y fall? Talodd y pris, ein heddwch yw. Iesu, dim ond Iesu. Sanctaidd Frenin Nefoedd wyt, Plyga’r holl angylion i ti, Syrthiaf finnau nawr […]
Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml, Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl. Ac wrth glosio atat ti ‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir, Teimlo cariad a hedd O weled dy wedd, Meseia. A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol; Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol. Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd […]
Iesu, enw bendigaid, Hawddgar Waredwr, Ein Harglwydd mawr; Emaniwel, Duw o’n plaid ni, Sanctaidd iachawdwr, Fywiol Air. (fersiwn i blant) Iesu, Ti yw’r goleuni, Cyfaill pob plentyn, Arglwydd mawr. Emaniwel, Duw sydd ynom, Sanctaidd Waredwr, clyw ni’n awr. (Jesus, name above all names): Naida Hearn, Cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun a Nest Ifans Hawlfraint © 1974,1979 […]
Iesu, fe ddathlwn ni dy goncwest di; Iesu, ymgollwn yn dy ras. Iesu, gorfoleddwn ynot ti; Iesu, fe’n prynaist drwy dy waed. I brofi rhyddid cael bod yn blant i Dduw, O fod yn gaeth i bechod, trwyddo ef y cawn ni fyw. Dewch, gorfoleddwn yn ei goncwest ef, A’i gariad yn ein c’lonnau ni. […]