I Dduw bo’r gogoniant! Mawr bethau a wnaeth! Cans carodd a rhoddodd ei Fab dros y caeth; Rhoes yntau ei fywyd yn iawn dros ein bai, Agorodd borth Bywyd i bawb yn ddi-lai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Aed trwy’r ddaear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O! dewch […]
I Dduw y dechreuadau rhown fawl am ddalen lân, am hyder yn y galon ac ar y wefus, gân: awn rhagom i’r anwybod a’n pwys ar ddwyfol fraich; rho nerth am flwyddyn arall i bobun ddwyn ei faich. Ar sail ein doe a’n hechdoe y codwn deml ffydd, yn nosau ein gorffennol ni fethodd toriad […]
I ddyddiau’r glanio ar y lloer y’n ganed, Iôr, bob un, a gwelsom wyrthiau eraill drwy y ddawn a roist i ddyn. Ond dyro weled gwyrthiau mwy – cael sathru dan ein troed yr afiechydon creulon, cry’ sy’n blino’r byd erioed. Rho inni’n fuan weled dydd na cheir, drugarog Dduw, na newyn blin na thlodi […]
I Galfaria trof fy ŵyneb, ar Galfaria gwyn fy myd: y mae gras ac anfarwoldeb yn diferu drosto i gyd; pen Calfaria, yno, f’enaid, gwna dy nyth. Yno clywaf gyda’r awel salmau’r nef yn dod i lawr ddysgwyd wrth afonydd Babel gynt yng ngwlad y cystudd mawr: pen Calfaria gydia’r ddaear wrth y nef. Dringo’r […]
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes, nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. ‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O […]
I ti dymunwn fyw, O Iesu da, ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha’: neu os daw’r niwl i guddio’r wybren las na ad i’m hofnau atal gwaith dy ras. Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw; a gad i mi, wrth ddringo’u hysgol hwy, […]
I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, ie, addolwn di. I ti fe roddwyd yr enw mwyaf, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, ac addolwn di. Ni yw dy bobl, ry’m yma i’th foli, Ac addolwn di, Ie, addolwn di. Prynaist […]
I ti, O Dad addfwynaf, fy ngweddi a gyflwynaf yn awr ar derfyn dydd: O derbyn di fy nghalon, mewn hawddfyd a threialon yn gysgod bythol imi bydd. Pob gras tydi a feddi i wrando ar fy ngweddi, clyw nawr fy llef, O Dad; na chofia fy ffaeleddau, a maddau fy nghamweddau, dy fendith, Arglwydd, […]
I ti, o Dad, fe roddwn ein clod, Ti yw ein craig, O! ein Duw. Na foed i ni fyth gefnu arnat, Na foed i’r gelyn fyth ein gorchfygu ni. Byth ni ddiffygia y sawl A bwysa mewn ffydd ’not ti. Mae’n llygaid ni arnat ti, O! Dduw. Castella, gwarchoda, Noddfa wyt i ni. I […]
I’n Duw, rhoddwn ddiolch glân, I’n Duw, canwn newydd gân I’n Duw, am iddo roddi Iesu Grist, Ei Fab. (Ailadrodd) “Yn awr”, medd y gwan “yr wyf yn gryf”, Medd y tlawd “Cyfoethog wyf, Oherwydd beth a wnaeth fy Nuw drosof fi”. (Ailadrodd) (Tro olaf) Fy Nuw. (Grym Mawl 1: 39) Henry Smith: Give Thanks, […]