O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]
O dawel ddinas Bethlehem, o dan dy sêr di-ri’, ac awel fwyn Jwdea’n dwyn ei miwsig atat ti: daw heno seren newydd, dlos i wenu uwch dy ben, a chlywir cân angylion glân yn llifo drwy y nen. O dawel ddinas Bethlehem, bugeiliaid heno ddaw dros bant a bryn at breseb syn oddi ar y […]
O ddedwydd awr tragwyddol orffwys oddi wrth fy llafur yn fy rhan yng nghanol môr o ryfeddodau heb weld terfyn byth na glan; mynediad helaeth byth i bara o fewn trigfannau Tri yn Un, dŵr i’w nofio heb fynd drwyddo, dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn. Melys gofio y cyfamod draw a wnaed gan […]
O ddirgelwch mawr duwioldeb, Duw’n natur dyn; Tad a Brenin tragwyddoldeb yn natur dyn; o holl ryfeddodau’r nefoedd dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd, testun mawl diderfyn oesoedd, Duw’n natur dyn! Ar y ddaear bu’n ymdeithio ar agwedd gwas, heb un lle i orffwys ganddo, ar agwedd gwas: daeth, er mwyn ein cyfoethogi, o uchelder gwlad goleuni […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
O Dduw ein Iôr, bendigedig ydwyt ti, Y ddae’r sy’n llawn o’th ogoniant. O Dduw ein Iôr, mor drugarog ydwyt ti; Mor hardd, mor wych, ac mor ddyrchafedig. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. O Dduw ein Tad, mor haelionus ydwyt […]
O Dduw, a roddaist gynt dy nod ar bant a bryn, a gosod craig ar graig dan glo’n y llethrau hyn, bendithia waith pob saer a fu yn dwyn ei faen i fur dy dŷ. Tydi sy’n galw’r pren o’r fesen yn ei bryd, a gwasgu haul a glaw canrifoedd ynddo ‘nghyd: O cofia waith […]
O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, galw ‘rwyf, ateb fi: O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, tyred, erglyw fy llef. CYMUNED TAIZÉ (O Lord hear my prayer), cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 799)
O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt, ein gobaith am a ddaw, ein lloches rhag ystormus wynt a’n bythol gartref draw. Cyn llunio’r bryniau o un rhyw, cyn gosod seiliau’r byd, o dragwyddoldeb ti wyt Dduw, parhei yr un o hyd. Mil o flynyddoedd iti sydd fel doe pan ddêl i ben neu wyliadwriaeth cyn […]
O Dduw, mae du gymylau barn Yn bygwth uwch ein byd, A ninnau’n euog. O Dduw, fe dorrwyd deddfau clir Dy gariad – gwêl ein gwae, Bywydau’n deilchion. O trugarha, (dynion) O trugarha, (merched) O maddau’n bai, (dynion) O maddau’n bai, (merched) O adfer ni – bywha dy eglwys Iôr. (pawb) A llifed barn (dynion) […]