logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd yn welediad fy nghalon am byw

Bydd yn welediad fy nghalon am byw; Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw; Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd, Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd. Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi, Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi; Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun, Ti […]


Bydd yn wrol, paid â llithro

Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith y mae seren i’th oleuo: cred yn Nuw a gwna dy waith. Er i’r llwybyr dy ddiffygio, er i’r anial fod yn faith, bydd yn wrol, blin neu beidio: cred yn Nuw a gwna dy waith. Paid ag ofni’r anawsterau, paid ag ofni’r […]


Bywha dy waith, O Arglwydd mawr

Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, dros holl derfynau’r ddaear lawr drwy roi tywalltiad nerthol iawn o’r Ysbryd Glân a’i ddwyfol ddawn. Bywha dy waith o fewn ein tir, arddeliad mawr fo ar y gwir; mewn nerth y bo’r Efengyl lawn, er iachawdwriaeth llawer iawn. Bywha dy waith o fewn dy dŷ a gwna dy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Caed baban bach mewn preseb

Caed baban bach mewn preseb drosom ni, a golau Duw’n ei ŵyneb drosom ni: mae gwyrthiau Galilea, . a’r syched yn Samaria, a’r dagrau ym Methania drosom ni; mae’r llaw fu’n torri’r bara drosom ni. Mae’r geiriau pur lefarodd drosom ni, mae’r dirmyg a ddioddefodd drosom ni: mae gwerth y Cyfiawn hwnnw, a’r groes a’r […]


Caed modd i faddau beiau

Caed modd i faddau beiau a lle i guddio pen yng nghlwyfau dyfnion Iesu fu’n gwaedu ar y pren; anfeidrol oedd ei gariad, anhraethol oedd ei gur wrth farw dros bechadur o dan yr hoelion dur. Un waith am byth oedd ddigon i wisgo’r goron ddrain; un waith am byth oedd ddigon i ddiodde’r bicell […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Caed trefn i faddau pechod

Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn; mae iachawdwriaeth barod yn yr Iawn; mae’r ddeddf o dan ei choron, cyfiawnder yn dweud, “Digon,” a’r Tad yn gweiddi, “Bodlon” yn yr Iawn; a “Diolch byth,” medd Seion, am yr Iawn. Yn awr, hen deulu’r gollfarn, llawenhawn; mae’n cymorth ar Un cadarn, llawenhawn: mae galwad heddiw […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Cais yr Iesu mawr gennym ni o hyd

Cais yr Iesu mawr gennym ni o hyd Megis lampau bychain deg oleuo’r byd; Tywyll yw’r holl daear, felly gwnaed pob un Bopeth i oleuo ei gylch ei hun. Cais yr Iesu mawr gennym ar ei ran Ef ei hun oleuo, er nad ŷm ond gwan; Tremia ef o’r nefoedd, ac fe wêl bob un […]

  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015

Cân angylion ar yr awel

Cân angylion ar yr awel o gylch gorsedd Duw; swynol nodau eu telynau O fy enaid, clyw; gwrando’r miloedd sy’n cyffesu a chlodfori enw Duw. Ti sy ‘mhell tu hwnt i gyrraedd ein golygon ni, a all dynion pechadurus ddod i’th ymyl di? Dwed a elli di ein gwrando a’n cysuro? “Gallaf fi.” Ti a’n […]


Canaf am yr addewidion

Canaf am yr addewidion: ar fy nhaith lawer gwaith troesant yn fendithion. Ni fu nos erioed cyn ddued nad oedd sêr siriol Nêr yn y nef i’w gweled. Yn yr anial mwyaf dyrys golau glân colofn dân ar y ffordd ymddengys. Yng nghrastiroedd Dyffryn Baca dyfroedd byw ffynnon Duw yno’n llyn a’m llonna. I ddyfnderoedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Canaf yn y bore

Canaf yn y bore am dy ofal cu; drwy yr hirnos dywyll gwyliaist drosof fi. Diolch iti, Arglwydd, nid ateliaist ddim; cysgod, bwyd a dillad, ti a’u rhoddaist im. Cadw fi’n ddiogel beunydd ar fy nhaith; arwain fi mewn chwarae, arwain fi mewn gwaith. Boed fy ngwaith yn onest, rho im galon bur; nertha fi […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015