Arglwydd, rho im glywed sŵn dy eiriau glân, geiriau pur y bywyd, geiriau’r tafod tân. Pan fo dadwrdd daear bron â’m drysu i rho i’m henaid glywed sŵn dy eiriau di. Uwch tymhestlog donnau môr fy einioes flin dwed y gair sy’n dofi pob ystormus hin. A phan grwydro ‘nghalon ar afradlon daith dwed y […]
Arglwydd, selia y cyfamod wna’r disgyblion ieuainc hyn; heddiw yn y cymun sanctaidd dangos aberth pen y bryn; rho ddeheulaw dy gymdeithas iddynt hwy. Cadw hwy rhag pob gwrthgiliad a rhag gwadu’r broffes dda; yn golofnau yn dy eglwys, cedyrn, prydferth, hwythau gwna; ysgrifenna d’enw newydd arnynt hwy. Diwyd fyddont yn dy winllan o dan […]
Arhosaf ddydd a nos, Byth bellach dan dy Groes, I’th lon fwynhau; Mi wn mai’r taliad hyn, Wnaed ar Galfaria fryn, A’m canna oll yn wyn Oddi wrth fy mai. Yn nyfnder dŵr a thân, Calfaria fydd fy nghân, Calfaria mwy: Y bryn ordeiniodd Duw Yn nhragwyddoldeb yw, I godi’r marw’n fyw Trwy farwol glwy’. […]
Arnat, Iesu, boed fy meddwl, am dy gariad boed fy nghân; dyged sŵn dy ddioddefiadau fy serchiadau oll yn Un: mae dy gariad uwch a glywodd neb erioed. O na chawn ddifyrru ‘nyddiau llwythog, dan dy ddwyfol groes, a phob meddwl wedi ei glymu wrth dy Berson ddydd a nos; byw bob munud mewn tangnefedd […]
Arnom gweina dwyfol Un heb ei ofyn; mae ei ras fel ef ei hun yn ddiderfyn; blodau’r maes ac adar nef gedwir ganddo, ond ar ddyn mae’i gariad ef diolch iddo. Disgwyl y boreddydd wnawn mewn anghenion, ac fe dyr ag effa lawn o fendithion; gad ei fendith ar ei ôl wrth fynd heibio; Duw […]
At un sy’n gwrando gweddi’r gwan ‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri; ymhob cyfyngder, ing a phoen, O Dduw, na wrthod fi. Er mor annheilwng o fywynhau dy bresenoldeb di, a haeddu ‘mwrw o ger dy fron, O Dduw, na wrthod fi. Pan fo ‘nghydnabod is y nen yn cefnu arna’ i’n rhi’, a châr a chyfaill […]
Atat, Arglwydd, trof fy ŵyneb, Ti yw f’unig noddfa lawn, Pan fo cyfyngderau’n gwasgu – Cyfyngderau trymion iawn; Dal fi i fyny ‘ngrym y tonnau, ‘D oes ond dychryn ar bob llaw; Rho dy help, Dywysog bywyd, I gael glanio’r ochor draw. Ti gei ‘mywyd, Ti gei f’amser; Ti gei ‘noniau o bob rhyw; P’odd […]
Athro da, ar ddechrau’r dydd dysg ni oll yng ngwersi’r ffydd, boed ein meddwl iti’n rhodd a’n hewyllys wrth dy fodd. Athro da, disgybla ni yn dy gariad dwyfol di fel y gallwn ninnau fod yn ein bywyd iti’n glod. Athro da, O arwain ni yn ddiogel gyda thi; wrth dy ddilyn, gam a cham, […]
Awn at ei orsedd rasol ef, dyrchafwn lef i’r lan; mae’n gwrando pob amddifad gri, mae’n rhoddi nerth i’r gwan. Anadla, f’enaid llesg, drwy ffydd, mae’r ffordd yn rhydd at Dduw; mae gras yn gymorth hawdd ei gael, a modd i’r gwael gael byw. Gerbron y drugareddfa lân fe gân yr euog rai; mae iachawdwriaeth […]
Awn i Fethlem, bawb dan ganu, neidio, dawnsio a difyrru, i gael gweld ein Prynwr c’redig aned heddiw, Ddydd Nadolig. Ni gawn seren i’n goleuo ac yn serchog i’n cyf’rwyddo nes y dyco hon ni’n gymwys i’r lle santaidd lle mae’n gorffwys. Mae’r bugeiliaid wedi blaenu tua Bethlem dan lonyddu, i gael gweld y grasol […]