Boed mawl i Dduw gan engyl nef a chlod gan ddynion fyrdd; mor rhyfedd yw ei gariad ef, mor gyfiawn yw ei ffyrdd. Mor ddoeth yw cariad Duw at ddyn sydd wan dan faich ei fai: yn ddyn mewn cnawd daeth Duw ei hun i’w nerthu a’i lanhau. O’i gariad doeth, ein Duw mewn cnawd […]
Braint, braint yw cael cymdeithas gyda’r saint, na welodd neb erioed ei maint: ni ddaw un haint byth iddynt hwy; y mae’r gymdeithas yma’n gref, ond yn y nef hi fydd yn fwy. Daeth drwy ein Iesu glân a’i farwol glwy’ fendithion fyrdd, daw eto fwy: mae ynddo faith, ddiderfyn stôr; ni gawsom rai defnynnau […]
Brwydra bob dydd, cryfha dy ffydd Crist yw dy nerth i gario’r dydd; mentra di fyw a chei gan Dduw goron llawenydd, gwerthfawr yw. Rhed yrfa gref drwy ras y nef, cod olwg fry i’w weled ef; bywyd a’i her sydd iti’n dod Crist yw y ffordd, a Christ yw’r nod. Rho heibio nawr dy […]
Brynwr mawr, er mwyn y groes a dyfnderau dwyfol loes, er mwyn ing dy gariad drud ddug ddoluriau anwir fyd, pob hunanol nwyd glanha, a phob nefol ddawn cryfha; yma nawr cymhwysa ni, Brynwr mawr, i’th gofio di. Yn y bara, yn y gwin, dyro brawf o’th rasol rin; gan i ti ordeinio’r wledd, paid […]
Bugail f’enaid yw’r Goruchaf, ni bydd mwyach eisiau arnaf; ef a’m harwain yn ddiogel i’r porfeydd a’r dyfroedd tawel. Dychwel f’enaid o’i grwydriadau, ac fe’m harwain hyd ei lwybrau; ar fy nhaith efe a’m ceidw yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw. Yn ei law drwy’r glyn y glynaf, cysgod angau mwy nid ofnaf; pery’r […]
Bugail Israel sydd ofalus am ei dyner annwyl ŵyn; mae’n eu galw yn groesawus ac yn eu cofleidio’n fwyn. “Gadwch iddynt ddyfod ataf, ac na rwystrwch hwynt,” medd ef, “etifeddiaeth lân hyfrytaf i’r fath rai yw teyrnas nef.” Dewch blant bychain dewch at Iesu ceisiwch ŵyneb Brenin nef; hoff eich gweled yn dynesu i’ch bendithio […]
Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo’r plant ynghyd, y rhai fu oddi cartref o dŷ eu Tad cyhyd; dechreuir y gynghanedd ac ni bydd wylo mwy, a Duw a sych bob deigryn oddi wrth eu llygaid hwy. Bydd canu yn y nefoedd pan ddelo’r plant ynghyd, y rhai fu oddi cartref o dŷ eu Tad […]
Bydd gyda ni, O Dduw ein Tad, ar uchel ŵyl dy blant, a derbyn di ein hufudd glod ar dafod ac ar dant. I’th enw sanctaidd, Arglwydd Iôr, y canwn oll ynghyd; tydi yn unig fedd yr hawl i dderbyn mawl y byd. Am bob rhyw ddawn diolchwn ni, am leisiau pur a glân, am […]
Bydd gyda ni, O Iesu da, sancteiddia ein cymdeithas; glanha’n meddyliau, pura’n moes er mwyn dy groes a’th deyrnas. O arwain ni ar ddechrau’r daith, mewn gwaith ac ymhob mwyniant, fel bo’n gweithredoedd ni bob un i ti dy hun yn foliant. Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen, boed arno raen gwirionedd; gwna’n bro gan drugareddau’n […]
Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]