Enaid gwan, paham yr ofni? Cariad yw meddwl Duw, cofia’i holl ddaioni. Pam yr ofni’r cwmwl weithian? Mae efe yn ei le yn rheoli’r cyfan. Os yw’n gwisgo y blodeuyn wywa’n llwyr gyda’r hwyr, oni chofia’i blentyn? Duw a ŵyr dy holl bryderon: agos yw dynol-ryw beunydd at ei galon. Er dy fwyn ei Fab […]
Engyl glân o fro’r gogoniant hedant, canant yn gytûn; clywch eu llawen gân uwch Bethlem, “Heddiw ganwyd Ceidwad dyn”: dewch, addolwn, cydaddolwn faban Mair sy’n wir Fab Duw, dewch, addolwn, cydaddolwn Iesu, Ceidwad dynol-ryw. Mwyn fugeiliaid glywsant ganu a hwy’n gwylio’u praidd liw nos; gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu yng ngoleuni’r seren dlos: dewch, […]
Enynnaist ynof dân, perffeithiaf dân y nef, ni all y moroedd mawr ddiffoddi mono ef; dy lais, dy wedd, a gweld dy waed, sy’n troi ‘ngelynion dan fy nhraed. Mae caru ‘Mhrynwr mawr, mae edrych ar ei wedd y pleser mwya’ nawr sy i’w gael tu yma i’r bedd: O gariad rhad, O gariad drud, […]
Enynner diolchgarwch, mae ffiol dyn yn llawn; bu Duw mewn mawr ddirgelwch yn taenu’r gwyrthiau grawn: doed moliant i’r cynteddau, a diolch pêr i’r pyrth; nid talu’n ôl ein beiau mae’r Tad sy’n gwneud y wyrth. Trwy’r ydfaes at yr adfyd yr â trugaredd Duw, mor hawdd i ddyn ddywedyd mai Tad trugarog yw; mae […]
Er chwilio’r holl fyd a’i fwyniant i gyd nid ynddo mae’r balm a’m hiacha; ond digon im yw yr Iesu a’i friw, fe’m gwared o’m penyd a’m pla. O’r nefoedd fe ddaeth i achub rhai caeth, fe’i gwelwyd mewn preseb oedd wael; ar groesbren fe’i caed, rhoes drosom ei waed, ei debyg ni ellir ei […]
Er dy fod yn uchder nefoedd, Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn, Eto dy greaduriaid lleiaf Yn dy olwg bob yr un; Nid oes meddwl Ond sy’n olau oll o’th flaen. Ti yw ‘Nhad, a thi yw ‘Mhriod, Ti yw f’Arglwydd, Ti yw ’Nuw, F’unig Dŵr, a’m hunig Noddfa, Wyt i farw neu i fyw: Cymmer f’enaid, […]
Er gwaetha’r maen a’r gwylwyr cyfododd Iesu’n fyw; daeth yn ei law alluog â phardwn dynol-ryw; gwnaeth etifeddion uffern yn etifeddion nef; fy enaid byth na thawed â chanu iddo ef. Boed iddo’r holl ogoniant, Iachawdwr mawr y byd; mae’n rhaid i mi ei ganmol pe byddai pawb yn fud; mae’n medru cydymdeimlo â gwaeledd […]
Er mai cwbwl groes i natur yw fy llwybyr yn y byd ei deithio wnaf, a hynny’n dawel yng ngwerthfawr wedd dy ŵyneb-pryd; wrth godi’r groes ei chyfri’n goron mewn gorthrymderau llawen fyw, ffordd yn union, er mor ddyrys, i ddinas gyfaneddol yw. Ffordd a i henw yn “Rhyfeddol” hen, a heb heneiddio yw; ffordd […]
Er maint yw chwerw boen y byd mi rof fy mryd ar Iesu, ac er pob cystudd trwm a loes mi dreulia’ f’oes i’w garu. Ni welais gyfaill dan y sêr mor dyner ag yw Iesu; ‘rwy’n penderfynu treulio f’oes i ddwyn ei groes dan ganu. Ni theimlais ddim gofidiau dwys wrth roi fy mhwys […]
Esgyn gyda’r lluoedd fry i fynydd Duw, tynnu tua’r nefoedd, bywyd f’enaid yw. Yfwn o ffynhonnau gloywon ddyfroedd byw wrth fynd dros y bryniau tua mynydd Duw. Dringwn fel ein tadau dros y creigiau serth; canwn megis hwythau, “Awn o nerth i nerth.” Pan wyf ar ddiffygio, gweld y ffordd yn faith, Duw sydd wedi […]