logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Colled pob blodeuyn hyfryd

Colled pob blodeuyn hyfryd Ei holl degwch is y rhod; Doed salwineb ar wynebau Pob creadur sydd yn bod; Tegwch byd fydd ynghyd Oll yn wyneb Prynwr drud. Pe diffoddai’r heulwen ddisglair Yn yr awyr denau las, A phe treuliai’r sêr y fflamau Ynddynt sydd o dân i maes, Mi gaf fyw gyda’m Duw Mewn […]


Corona’n hoedfa ar hyn o bryd

Corona’n hoedfa ar hyn o bryd â’th hyfryd bresenoldeb; rho brofi grym dy air a’th hedd a hyfryd wedd dy ŵyneb. Llefara wrthym air mewn pryd, dod ysbryd in i’th garu; datguddia inni’r oedfa hon ogoniant person Iesu. 1 DAFYDD WILLIAM, 1721?-94, 2 SIȎN SINGER, c. 1750-1807 (Caneuon Ffydd 11; Llawlyfr Moliant Newydd 139)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Craig yr oesoedd, cuddia fi

Craig yr oesoedd, cuddia fi, er fy mwyn yr holltwyd di; boed i rin y dŵr a’r gwaed gynt o’th ystlys friw a gaed fy nglanhau o farwol rym ac euogrwydd pechod llym. Ni all gwaith fy nwylo I lenwi hawl dy gyfraith di; pe bai im sêl yn dân di-lyth a phe llifai ‘nagrau […]


Credaf yn yr Arglwydd Iesu

Credaf yn yr Arglwydd Iesu, Credaf ei fod yn Fab i Dduw, Credaf iddo farw ac atgyfodi, Credaf iddo farw yn ein lle. (Dynion) Ac rwy’n credu ei fod yn fyw yn awr, (Merched) Rwy’n credu ei fod yn fyw, (Pawb) Ac yn sefyll yn ein plith, (Dynion) Gyda’r nerth i’n hiacháu ni oll, (Merched) […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 19, 2015

Credo’r Bedydd

Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd, Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd; Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw, Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw. Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 13, 2016

Credwn ni yn Nuw

Credwn ni yn Nuw – Dad nefol, Ef yw Crëwr popeth sydd, Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr, Aned i’n o forwyn bur. Credwn iddo farw’n aberth, Dwyn ein pechod ar y groes. Ond mae’n fyw, fe atgyfododd, Esgynodd i ddeheulaw’r Tad. Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw, Iesu, ti yw’r Crist, gwir […]


Crist a orchfygodd

Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Gwisgoedd ei ogoniant Sydd yn ddisglair iawn, Wedi gweld ei harddwch Ninnau lawenhawn. Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Daw ef i’n cyfarch Gyda thoriad gwawr, Gwasgar ein hamheuon, Lladd ein hofnau mawr. Cryfach fyddwn […]


Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol

Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Newid wnaeth ogoniant nefol Am ddioddefaint Calfari. Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Canaf gyda’r dyrfa freiniol Fry gerllaw y grisial li. Bûm ar goll, ond Crist am cafodd, Do, yr oen grwydredig bell; Cododd fi a’m […]


Crist sydd yn Frenin, llawenhawn

Crist sydd yn Frenin, llawenhawn; gyfeillion, dewch â moliant llawn, mynegwch ei anhraethol ddawn. O glychau, cenwch iddo ef soniarus ganiad hyd y nef, cydunwn yn yr anthem gref. Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân, cenwch yr anthem loyw, lân i seintiau Crist a aeth o’n blaen; canlyn y Brenin wnaent yn rhydd ac ennill miloedd […]


Crist yn bopeth

Crist yw ngwobr i A gwrthrych fy nefosiwn A does dim byd arall sydd All fyth modloni i. Treialon ddaw Ond canaf fi, Heb droi yn ôl, Rwy’n gwbl rydd! Crist yw fy mhopeth i Crist yw fy mhopeth i Ti yw’r cwbl oll dwi angen, Ti yw’r cwbl oll. Crist fy mhopeth wyt, Llawenydd […]