Glynwn gyda’r Iesu, Cyfaill dynol-ryw; Unwn oll i’w garu, Gan mor annwyl yw; Ffyddlon yw i’n cofio Â’i ddaioni drud: Glynwn ninnau wrtho, Cyfaill gorau’r byd. Glynwn gyda’r Iesu, Mae i ni yn frawd; Daeth yn un o’n teulu, Bu fel ni yn dlawd; Atom i’n cysuro Daeth i lawr o’r nef; Mae’n ein cofio […]
Glywsoch chi’r newyddion da? Glywsoch chi’r (new)yddion da? Gobaith sydd i’r byd oherwydd beth a wnaeth ein Duw. Glywsoch chi’r… Oes, mae ‘na ffordd, pan mae popeth fel pe’n ddu – Goleuni sydd yn y tywyllwch. Mae gobaith byw, tragwyddol obaithyw – Mae gennym Dduw all ein helpu. Oes mae cyfiawnder, ac mae heddwch pur, […]
Gobaith mawr y mae’r addewid wedi ei osod draw o’m blaen; hwn a gynnal f’enaid egwan rhag im lwfwrhau yn lân. Gobaith, wedi rhyfel caled, y caf fuddugoliaeth lawn; gobaith bore heb gymylau ar ôl noswaith dywyll iawn. Gobaith, ar ôl maith gystuddiau, y caf fod heb boen na chlwy’; gobaith, yn y ffwrnais danllyd, […]
Mae hon yn hen emyn – ond mae cerddoriaeth gyfoes wedi cael ei chyfansoddi ar ei chyfer – dilynwch y ddolen youtube ar waelod y dudalen. Pennill 1 Un dydd gyda’r nefoedd yn orlawn o’i foliant, Un diwrnod â phechod yn ddu fel y fall, Iesu ddaeth atom, fe’i anwyd o forwyn, I fyw yn […]
Gofala Duw a Thad pob dawn yn dyner iawn amdanom: mae’n tai yn llawn o’i roddion rhad, O boed ei gariad ynom. Y cynnar law a’r tyner wlith, diferant fendith unwedd; y ddaear, rhydd ei ffrwythau da, a’r haul, cyfranna’i rinwedd. Am ffrwythau hael y flwyddyn hon a’i mawrion drugareddau moliannwn enw Duw bob dydd […]
Gogoniant fo i’r Arglwydd a ddug ein beiau i gyd i’w hoelio ar Galfaria i farw yno ‘nghyd; cyfiawnder yw ei enw, trugaredd yw ei lef, a garodd ei elynion yn fwy na gwychder nef. Mae’n diffodd fflamau gofid, mae’n difa brath pob clwy’; fe roes y cyfan unwaith a’i fawredd eto’n fwy dihangodd o […]
Gogoniant i Dduw yn y nefoedd goruchaf Tangnefedd islaw ar y ddaear i ni; Addolwn, moliannwn, diolchwn am d’ogoniant, Dduw Dad hollalluog, ein brenin wyt Ti. Arglwydd Iesu, Oen Duw sydd yn dwyn ymaith pechodau, Fab Duw, trugarha wrthym, gwrando ein llef; Ti’n unig sy’n sanctaidd, Ti’n unig yw’r Arglwydd, Tad, Mab, Ysbryd Glân, yng […]
Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw, mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw; ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’ i gofio pechadur na chofia dydi. Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad, tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had; tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn, tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf […]
Golau a nerthol yw ei eiriau, Melys fel y diliau mêl, Cadarn fel y bryniau pwysig; Angau Iesu yw eu sêl; Y rhain a nertha ‘nhraed i gerdded Dyrys anial ffordd ymlaen; Y rhain a gynnal f’enaid egwan, Yn y dŵr ac yn y tân. Gwedd dy wyneb sy’n rhagori Ar drysorau’r India draw; Mae […]
Golau haul, a sêr a lleuad, popeth da a hardd ei lun, rhyfeddodau mawr y cread, dyna roddion Duw ei hun. Clod i’r Arglwydd, clod i’r Arglwydd, am bob rhodd i’n cadw’n fyw, O moliannwn a chydganwn am mai cariad ydyw Duw. Ffurf a lliw y coed a’r blodau, ffrwythau’r ddaear i bob un, holl […]