Dinas sydd yn disgleirio Gyda harddwch Oen ein Duw. Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno, Ein tragwyddol gartref yw. O’th blegid di, o’th blegid di, Fe’n ceraist yn rhad, Fe roddaist dy waed. Ni fydd poen, ni fydd gofid, Ni fydd wylo, ni fydd clwy. Derfydd drwg, derfydd dioddef, A marwolaeth ni bydd mwy. O’th […]
Dy glwyfau yw fy rhan, Fy nhirion Iesu da; Y rhain yw nerth fy enaid gwan, Y rhain a’m llwyr iachâ: Er saled yw fy nrych, Er tloted wyf yn awr, Fy llenwi gaf â llawnder Duw, A’m gweled fel y wawr. Mi brofais Dduw yn dda, Fy nhirion raslon Dad, Yn maddau im fy meiau […]
Dim ond trwy ras cawn fynediad, Dim ond trwy ras ‘down o’th flaen; Nid am in haeddu dy gariad, Deuwn drwy waed pur yr Oen. Ti sy’n ein tywys ni atat, Cawn ddod ger dy fron; Ti sy’n ein galw i’th gwmni, A down trwy dy ras yn llon, Down trwy dy ras yn llon. […]
Daw brenhinoedd o bob gwlad, Plygant oll o’th flaen ryw ddydd. Bydd pob llwyth a phob un iaith Yn addoli’n Duw yn rhydd. O Seion y daw – Fe’i clywir drwy’r byd, Y gân am dy groes, drwy’r ddaear i gyd. O addfwyn Oen Trwy dy aberth di achubiaeth gaed. (Grym Mawl 2: 82) Robin […]
Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di Dyrchafaf d’enw di yn awr. Mae d’Air fel craig, o oes i oes yr un, Cyflawnir d’addewidion mawr. Yn dy faddeuant gorfoleddaf fi, Mawr yw dy iachawdwriaeth di, Mawr yw dy gariad roddodd Grist i’n byd Yn Iawn dros ein pechodau du. Molaf Ef â’m nerth, gyda […]
Pan rwy’n galw rwyt ti yn ateb Pan rwy’n syrthio, rwyt yna gerllaw Do achubaist fi o dywyllwch I fyw bywyd o obaith a mawl. Trwy ras rwy’n rhydd, Achubaist fi, Rhof fy hun i ti. Ei gariad rydd wefr sydd uwchlaw pob dim Ei obaith sy’n gryfach na phopeth i mi Roeddwn ar goll, […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]
Duw, fe’th folwn, ac addolwn, Ti ein Iôr a thi ein Rhi; Brenin yr angylion ydwyt, Arglwydd, fe’th addolwn di. Dengys dy holl greadigaeth Dy ogoniant di-lyth; Canant ‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd’ Hollalluog, Dduw dros byth! Apostolion a phroffwydi, Saint a roes y byd ar dân, Llu merthyron aeth yn angof, Unant oll mewn nefol gân; […]
Duw lefarodd drwy’r proffwydi – Digyfnewid Air roes Ef – Trwy yr oesoedd yn cyhoeddi Arglwydd cyfiawn, Duw y nef; Tra terfysga byd di-obaith Angor sicr ddeil yn dynn: Duw sydd ar ei orsedd gadarn, Cyntaf, olaf, unig Un. Duw lefarodd trwy yr Iesu: Crist, tragwyddol Fab o’r nef; Gwir ddisgleirdeb y gogoniant, Un â’r […]
Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw, Aed iachawdwriaeth i’r cenhedloedd gwyw; Cyhoeddwch Grist yn frenin, Geidwad mad, A chaner clodydd iddo ym mhob gwlad. Dos rhagot cân, fe’n câr ni oll bob un, Trwy ras fe etyb galwad pob rhyw ddyn; Pa fodd y galwant oni chlywsant air Gwahoddiad grasol Iesu faban Mair? Dos […]