Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn: heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr. Dewch, bob cenedl is y rhod, unwch â’r angylaidd glod, bloeddiwch oll â llawen drem, ganwyd Crist ym Methlehem: Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn! Crist, Tad tragwyddoldeb […]
Clywch y canu lond yr awel! Nodau pêr: Hwythau’r sêr Oll yn gwenu’n dawel. Llon y geiriau! Llawn o gariad Ydyw cân Engyl glân: “Ganed i chwi Geidwad”. Yn y pellter draw mi glywaf Lais y Crist: “Ffrindiau trist, Yn eich ing dewch ataf: Bwriwch ymaith wag obeithion; Ataf dewch: Llawenhewch, A gorffwyswch weithion”. At […]
Clywch y newydd da, Llawenydd mawr i bawb drwy’r byd; Hyn a fydd yn arwydd: I Fethlehem daw mab mewn crud. Dewch, addolwch, peidiwch ofni dim. Neges côr angylion: ‘Gogoniant fo i Frenin Nef, Ac ar y ddaear heddwch I’r bobl wnaiff ei ddilyn Ef.’ Mae f’enaid i yn mawrhau yr Iôr! F’enaid sy’n mawrhau […]
Ein Tad, teyrnasa di Yn ein calonnau ni Tyrd gweithia trwom ni a dangos ystyr byw. Tyrd tania ein calonnau nawr  fflamau gwyllt dy gariad mawr. Ysbryd Glân meddianna ni yn llwyr. D’eglwys ŷm ni Rho nerth i ni yn awr. Dy deyrnas geisiwn ni; Sychedu amdanat ti a gwrthod ffordd y byd cans […]
(Dynion) Codaf eglwys fyw, (Merched) Codaf eglwys fyw, (Dynion) A phwerau’r fall, (Merched) A phwerau’r fall, (Dynion) Ni threchant hi, (Merched) Ni threchant hi, (Pawb) Byth bythoedd. (Ailadrodd) Felly grymoedd y nefoedd uwchben, plygwch! A theyrnasoedd y ddaear is-law, plygwch! A chydnabod mai lesu, lesu, lesu sydd ben, sydd ben! I will build my church, […]
Cododd Iesu! Haleliwia, haleliwia! Cododd Iesu! Cododd yn wir, haleliwia! Cariad a ddaeth, Gorchfygu a wnaeth, Collodd marwolaeth ei fri. O’r bedd yn fyw Am byth gyda Duw, Iesu ein Harglwydd a’n Rhi. Arglwydd yw Ef Dros bechod a’r bedd; Satan a syrth wrth ei draed! Ein Harglwydd sydd fawr, Pob glin blyga’i lawr – […]
Codwch eich pen fry i’n Brenin mawr, Plygwch, molwch, cenwch iddo nawr I’w fawrhydi Ef, boed eich clod yn llawn, Pur a sanctaidd, rhowch ogoniant Nawr i Frenin nef. (fersiwn i’r plant:) Codwn ni ein llef, ffrindiau Brenin Nef. Dewch, ymunwch, cyd-addolwn Ef. Canwn, yn un côr, glod i’n Harglwydd Iôr; Mawl fo iddo, gweithiwn […]
Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]
Cofia bob amser, cofia bob tro, paid ag anghofio dweud, “Diolch”. Cofia bob amser, cofia bob tro, cofia ddweud, “Diolch, Iôr.” Diolch am fwyd bob dydd, am ddillad twym, am ‘sgidiau cryf. Cytgan Diolch am iechyd da, am nerth i weithio a mwynhau. Cytgan Diolch am gartref clyd, am wres a chysur gawn bob dydd. […]
Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio D’oriau gwerthfawr yn y byd, Cyn ehedeg draw oddi yma, P’un a gest ti’r trysor drud; Yn mha ardal bydd fy llety? Fath pryd hynny fydd fy ngwedd? P’un ai llawen, ai cystuddiol Fyddi y tu draw i’r bedd? Mae nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd maith o’m blaen, A […]