Bydd gyda ni, O Dduw ein Tad, ar uchel ŵyl dy blant, a derbyn di ein hufudd glod ar dafod ac ar dant. I’th enw sanctaidd, Arglwydd Iôr, y canwn oll ynghyd; tydi yn unig fedd yr hawl i dderbyn mawl y byd. Am bob rhyw ddawn diolchwn ni, am leisiau pur a glân, am […]
Bydd gyda ni, O Iesu da, sancteiddia ein cymdeithas; glanha’n meddyliau, pura’n moes er mwyn dy groes a’th deyrnas. O arwain ni ar ddechrau’r daith, mewn gwaith ac ymhob mwyniant, fel bo’n gweithredoedd ni bob un i ti dy hun yn foliant. Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen, boed arno raen gwirionedd; gwna’n bro gan drugareddau’n […]
Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]
Bydd yn welediad fy nghalon am byw; Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw; Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd, Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd. Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi, Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi; Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun, Ti […]
Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith y mae seren i’th oleuo: cred yn Nuw a gwna dy waith. Er i’r llwybyr dy ddiffygio, er i’r anial fod yn faith, bydd yn wrol, blin neu beidio: cred yn Nuw a gwna dy waith. Paid ag ofni’r anawsterau, paid ag ofni’r […]
Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, dros holl derfynau’r ddaear lawr drwy roi tywalltiad nerthol iawn o’r Ysbryd Glân a’i ddwyfol ddawn. Bywha dy waith o fewn ein tir, arddeliad mawr fo ar y gwir; mewn nerth y bo’r Efengyl lawn, er iachawdwriaeth llawer iawn. Bywha dy waith o fewn dy dŷ a gwna dy […]
Caed baban bach mewn preseb drosom ni, a golau Duw’n ei ŵyneb drosom ni: mae gwyrthiau Galilea, . a’r syched yn Samaria, a’r dagrau ym Methania drosom ni; mae’r llaw fu’n torri’r bara drosom ni. Mae’r geiriau pur lefarodd drosom ni, mae’r dirmyg a ddioddefodd drosom ni: mae gwerth y Cyfiawn hwnnw, a’r groes a’r […]
Caed modd i faddau beiau a lle i guddio pen yng nghlwyfau dyfnion Iesu fu’n gwaedu ar y pren; anfeidrol oedd ei gariad, anhraethol oedd ei gur wrth farw dros bechadur o dan yr hoelion dur. Un waith am byth oedd ddigon i wisgo’r goron ddrain; un waith am byth oedd ddigon i ddiodde’r bicell […]
Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn; mae iachawdwriaeth barod yn yr Iawn; mae’r ddeddf o dan ei choron, cyfiawnder yn dweud, “Digon,” a’r Tad yn gweiddi, “Bodlon” yn yr Iawn; a “Diolch byth,” medd Seion, am yr Iawn. Yn awr, hen deulu’r gollfarn, llawenhawn; mae’n cymorth ar Un cadarn, llawenhawn: mae galwad heddiw […]