Fe rof i chwi bopeth sydd Ei angen nawr i fynd ymlaen. Yr Ysbryd Glân o’ch mewn a fydd, A’m geiriau i, i orchfygu’r gelyn. Ewch, ewch drwy’r byd i gyd, D’wedwch mod i’n fyw, Ewch i bob un stryd, D’wedwch mod i’n byw, O, ynoch rwyf yn byw – Ewch, ewch drwy’r byd i […]
Fe welwn orsedd fry Uwch pob un gorsedd sy’, Lle daw un dydd y ffyddlon rai O bob un gwlad; Gerbron y Mab cawn ddod, Heb fai trwy waed yr Oen; Drwy ffydd daw’r gras addawodd Ef I ni’n iachád. Clywch leisiau’r nef ar gân; Eu hanthem seinia’n lân; Drwy’r llysoedd fry ar nefol dôn […]
Fe’i harchollwyd am ein troseddau, A thros ein hanwireddau ni; Pris ein heddwch ni roddwyd arno, A chawsom ni lwyr iachad. Fe’i harweiniwyd ef i’r lladdfa, Cymerodd ef ein beiau ni; Ac o dir y byw fe’i torrwyd, Yr un di-fai drosom ni. Crwydro wnaethom ni bob un, Aethom bawb i’w ffordd ei hun, Ac […]
Fe’m derbyniwyd, maddeuwyd i mi, Fe’m cofleidiwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Fe’m derbyniwyd, heb gondemniad, Do fe’m carwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Nid oes ofn na braw wrth im nesáu At Iachawdwr a Chrëwr y byd; Gyda llawen hedd fe godaf lef I’th foli fy Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies […]
Fe’th addolaf (Fe’th addolaf) Â’m calon ar dân. (â’m calon ar dân.) Gwnaf, fe’th folaf (Gwnaf, fe’th folaf) Â’m nerth i gyd. (nerth i gyd.) Ac fe’th geisiaf (Ac fe’th geisiaf) Bob cam o’r ffordd. (bob cam o’r ffordd.) Fe’th ddilynaf (Fe’th ddilynaf) Heb droi yn ôl (heb droi ‘nôl) Dof o’th flaen di i’th […]
Fe’th ddilynaf di at y groes A phlygu i lawr, plygu i lawr. Fe’th ddilynaf di at y groes, A phlygu i lawr, plygu i lawr. Gwisg fi â’th gyfiawnder di, Golch fi yn lân o’m haflendid. Rwy’n dewis dilyn ôl dy droed. O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr. Rho dy gusan i’m hiacháu, […]
Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Boed y gân yn felys sain yn dy glyw. Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Par im fod yn felys sain […]
Fel aur sy’n werthfawr, a melysder diliau mêl, Gwn dy fod yn caru’r ddinas hon – O! gwêl Yr holl blant sy’n chwarae ar ei strydoedd hi, A phob baban bach sy’n llefain yn ei grud. Pawb sy’n drysu neu’n syrffedu yn ei waith, Neu sy’n diodde rhwystredigaeth araf daith. Rwy’n teimlo gwefr wrth feddwl, […]
Fel brefa’r hydd am y dyfroedd byw, Sychedu mae f’enaid am fy Nuw. ‘Dwi d’angen di, fy Arglwydd a’m Rhi, ‘Dwi d’angen di, ‘Dwi d’angen di. Mwy na dim yn y byd, Na’r anadl ynof sydd, (Na) churiad y galon hon – Mwy na’r rhain i gyd. O! Dduw mewn dyddiau ddaw Fe fyddaf fi […]
Fel fflam dân, mae y cariad cyntaf Yn llosgi yn fy nghalon i. Fe daniodd ef fflam ei gariad ynof, Ac ‘rwyf am iddi losgi’n gry’. Ie, yn y nos ‘rwyf am ganu mawl i ti, Ac yn y bore fe geisiaf d’wyneb di. ‘Rwy’n un o’th blant ac fe ddawnsiaf o’th flaen di, Fe […]