Sancteiddrwydd im yw’r Oen di-nam ‘Nghyfiawnder, a’m doethineb, Fy mhrynedigaeth o bob pla, Fy Nuw i dragwyddoldeb. Ces weld mai Ef yw ‘Mrenin da Fy Mhroffwyd a’m Hoffeiriad, Fy Nerth a’m Trysor mawr a’m Tŵr, F’Eiriolwr fry a’m Ceidwad. Ar ochor f’enaid tlawd y bydd Ar fore dydd marwolaeth; Yn ŵyneb angau mi wnaf ble, […]
Sefyll o dan adain cariad Duw A ddaw a hedd i ni. Gwneuthur ei ewyllys ein byw Dry’n foliant, moliant, moliant iddo ef. Plygu wrth ei draed yn wylaidd wnawn Gan fyw mewn harmoni. Uno gyda’n gilydd yn ein mawl – ‘Teilwng, teilwng, teilwng yw yr Oen!’ Cwlwm cariad sy’n ein clymu ‘nawr I fod […]
Sefyll wnawn Gyda’n traed ar y graig. Beth bynnag ddywed neb, Dyrchafwn d’enw fry. A cherdded wnawn Drwy’r dywyllaf nos. Cerddwn heb droi byth yn ôl I lewych disgiair ei gôl. Arglwydd, dewisaist fi I ddwyn dy ffrwyth, I gael fy newid ar Dy lun di. Rwy’n mynd i frwydro ’mlaen Nes i mi weld […]
Seiniwch utgorn, bloeddiwch lef! Rhowch bob croeso iddo Ef. Dewch, ymunwch gyda ni i foli Brenin Nef. Sain telynau, curiad drwm – Paratowch y ffordd i hwn. Fe ddaw yn ôl i’n daear, Bydd pob tafod yn cyffesu: ‘Iesu, Fab Duw, Iesu, Fab Duw.’ Dewch, plygwch i’w awdurdod nawr; Fe goncrodd hwn y gelyn mawr. […]
Emyn priodas Seliwr cyfamodau’r ddaear Tyred i’r briodas hon, A chysegra serch y ddeuddyn A’u haddewid ger dy fron; Cadw’r heulwen yn eu calon, Cadw aur y fodrwy’n lân, Ym mhob digwydd a phob gofyn Cadw hwy rhan colli’r gân. Nawdd a tharian ein haelwydydd Ydwyt Ti, O Dad o’r nef, Rho i’r ddau a […]
Seren Bethlehem Rhyfeddod Ei ddyfod gyhoeddwyd gan hon, Bu disgwyl amdano ganrifoedd o’r bron, Gwireddwyd i ddoethion o’r dwyrain, y Gair Broffwydodd y Tadau am Grist, faban Mair. Bugeiliaid a’i canfu yng nghwmni llu’r Nef Wrth warchod eu preiddiau uwchlaw Bethlem dref, Arweiniodd hwy’n union at lety oedd dlawd I syllu a synnu at Dduwdod […]
Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan, Hyn ydyw ernes nef yn y man; Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed, Ganed o’r Ysbryd, golchwyd â’i waed. Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân; Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân. Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad, Profi llawenydd nefol ryddhad; […]
Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem ‘mhell, bell yn ôl; ŵyn bach mor wyn â’r ôd branciai yn ffôl, gwyliai’r bugeiliaid hwy ‘mhell, bell yn ôl. Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem, ‘mhell, bell yn ôl. Canai angylion llon uwch bryn a dôl fwyn garol iddo ef […]
Suai’r gwynt, suai’r gwynt wrth fyned heibio i’r drws; a Mair ar ei gwely gwair wyliai ei baban tlws: syllai yn ddwys yn ei ŵyneb llon, gwasgai Waredwr y byd at ei bron, canai ddiddanol gân: “Cwsg, cwsg, f’anwylyd bach, cwsg nes daw’r bore iach, cwsg, cwsg, cwsg. “Cwsg am dro, cwsg am dro cyn […]
Syrthiwn wrth dy draed, a’th addoli di, Ti yw’r Oen a laddwyd ac sydd eto’n fyw. Grym dy Ysbryd di sy’n ein denu ni, Clywn dy lais yn datgan buddugoliaeth lwyr. Fi yw’r un gyfododd, bu’m farw ac rwy’n fyw, Ac wele rwyf yn fyw’n oes oesoedd mwy. Gwelwn di o’n blaen; gwallt yn wyn […]