Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]
Mwy na’r awyr iach – Rwyf d’angen di nawr; Mwy na’r bwydydd i gyd Ym meddwl y tlawd; A mwy nag angen un gair Am dafod i’w ddweud; Ie, mwy nag angen un gân Am lais i’w chreu. Mwy na all gair esbonio’n glir, Mwy na all cân arddangos yn wir; Rwyf d’angen di yn […]
Gwêl yma o’th flaen di fy nghalon yn glau, Fy Nuw, a wnei di dosturio, wnei di drugarhau? Golcha ‘mhechod du yn dy ddyfroedd pur, Ac mewn dydd o ras tyrd i’m llenwi i. Gyda chalon lân, Iôr, addolaf di, Gyda chalon lân, addolaf di. (Grym Mawl 2: 89) Trish Morgan: Lord, My heart before […]
Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar y cenhedloedd, Anfon law, anfon law, anfon law, Anfon law ar yr holl bobloedd. Ennyn dân yn ein calonnau, Gwrando, ac ateb ein gweddïau: Gad in weld nerth dy Ysbryd Glân Agor holl lifddorau y nefoedd, Pâr i’r utgorn seinio, ac anfon law. Tywallt lawr arnaf […]
Daw brenhinoedd o bob gwlad, Plygant oll o’th flaen ryw ddydd. Bydd pob llwyth a phob un iaith Yn addoli’n Duw yn rhydd. O Seion y daw – Fe’i clywir drwy’r byd, Y gân am dy groes, drwy’r ddaear i gyd. O addfwyn Oen Trwy dy aberth di achubiaeth gaed. (Grym Mawl 2: 82) Robin […]
Iesu, mae d’enw uwch pob enw sydd, Nerthol Dduw, T’wysog Hedd, Gwaredwr. Iesu, fe’th garaf di yn fwy bob dydd, F’Arglwydd i, ‘Rwyf am d’adnabod di yn well. Gwêl yma fôr o fawl – Cwyd o ddwfn fy nghalon, tyrr fel ton ar don Wrth d’addoli Di. Carwr f’enaid i, Crëwr y cyfanfyd, Ti a […]
Iesu, rhown iti bob anrhydedd, Iesu, rhown iti yr holl glod. Uned dae’r a nef i ddyrchafu Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod. O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad, Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron. Cyffeswn bawb yn awr Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw, Frenin Iôr, clodforwn di […]
Iesu Grist sydd yn ben, Holl gyflawnder ein Duw ynddo mae; Ac fe’n geilw ni i’w ddilyn ef, Trwy ei atgyfodiad mawr Fe’n hachub yn awr. Gwir ddelw’r Duw anweledig yw Ef, Y cyntafanedig ydyw. Gwir Fab y Tad Nefol a greodd bob peth; Gorsedd a grym a’r holl awdurdodau cryf. Iesu sy’n ben ac […]
Fel brefa’r hydd am y dyfroedd byw, Sychedu mae f’enaid am fy Nuw. ‘Dwi d’angen di, fy Arglwydd a’m Rhi, ‘Dwi d’angen di, ‘Dwi d’angen di. Mwy na dim yn y byd, Na’r anadl ynof sydd, (Na) churiad y galon hon – Mwy na’r rhain i gyd. O! Dduw mewn dyddiau ddaw Fe fyddaf fi […]