I ti, o Dad, fe roddwn ein clod, Ti yw ein craig, O! ein Duw. Na foed i ni fyth gefnu arnat, Na foed i’r gelyn fyth ein gorchfygu ni. Byth ni ddiffygia y sawl A bwysa mewn ffydd ’not ti. Mae’n llygaid ni arnat ti, O! Dduw. Castella, gwarchoda, Noddfa wyt i ni. I […]
I’r lladdfa yn dy g’wilydd Yr aethost fel oen. Ac ar dy gefn y cludaist di fyd O helbul a phoen. Gwaedu, marw, gwaedu, marw. Rwyt ti’n fyw, rwyt ti’n fyw, Atgyfodaist! Haleliwia! Yr holl nerth a’r gogoniant a roddwyd Haleliwia, lesu i ti. Ar doriad gwawr Mair Fadlen A’i dagrau yn lli, Yn ei […]
Iesu, tyrd i’r canol Yn ein hoedfa ar y llawr, Bydd yn hardd gytundeb Wrth i’n llygaid gwrdd yn awr, O Iesu, fe’th garwn, felly down ynghyd, Ein calonnau una nawr a dryllia’n hofnau i gyd. Atat ti y deuwn O bob gwlad ar draws y byd, Crist yw’r cariad rhyngom Wrth in afael dwylo […]
Lle daw ynghyd Ddau neu dri yn fy enw, Yno’r wyf; yno gyda chwi. Ac os bydd dau yn gytûn wrth weddïo, Ymbil taer yn fy enw i. Fy Nhad a wrendy’th weddi di; Gwrendy’th gri a’i hateb. Ac fe rydd y cyfan oll, Drwy nerth f’enw i. Graham Kendrick: Where two or three, Cyfieithiad […]
Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn. O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]
Mae’n dod, mae’n dod, mae’r Brenin yn dod, croesawn ef: hardd Frenin y gogoniant yw o orsedd nef. Mae’n dod (mae’n dod), mae’n dod (mae’n dod), ef yw Brenin nef (ef yw Brenin nef); mae’n dod (mae’n dod), mae’n dod (mae’n dod), awn i mewn i’w deyrnas ef. I’r galon friw mae’i eiriau yn falm […]
Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant, Rhyfeddol yw ei harddwch Ef, Cyfiawnder a gwirionedd sanctaidd, Myrddiynau sy’n ei ddilyn Ef. O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n Dragwyddol, dragwyddol. Dacw ei fyddin yn mynd allan, Llawenydd sydd yn llenwi’r tir […]
Mor dda ac mor hyfryd yw bod Pobl yr Arglwydd yn gytûn. Fe ddisgyn fel gwlith ar ein tir, Neu olew gwerthfawr Duw Sy’n llifo’n rhydd. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd Mewn hedd a harmoni. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd ynddo ef. Mor ddwfn yw afonydd ei […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]