Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd, Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd; Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw, Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw. Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd […]
Credwn ni yn Nuw – Dad nefol, Ef yw Crëwr popeth sydd, Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr, Aned i’n o forwyn bur. Credwn iddo farw’n aberth, Dwyn ein pechod ar y groes. Ond mae’n fyw, fe atgyfododd, Esgynodd i ddeheulaw’r Tad. Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw, Iesu, ti yw’r Crist, gwir […]
Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Gwisgoedd ei ogoniant Sydd yn ddisglair iawn, Wedi gweld ei harddwch Ninnau lawenhawn. Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Daw ef i’n cyfarch Gyda thoriad gwawr, Gwasgar ein hamheuon, Lladd ein hofnau mawr. Cryfach fyddwn […]
Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Newid wnaeth ogoniant nefol Am ddioddefaint Calfari. Crist a’i hanes sy’n rhyfeddol – ‘R Hwn fu farw drosof fi; Canaf gyda’r dyrfa freiniol Fry gerllaw y grisial li. Bûm ar goll, ond Crist am cafodd, Do, yr oen grwydredig bell; Cododd fi a’m […]
Crist sydd yn Frenin, llawenhawn; gyfeillion, dewch â moliant llawn, mynegwch ei anhraethol ddawn. O glychau, cenwch iddo ef soniarus ganiad hyd y nef, cydunwn yn yr anthem gref. Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân, cenwch yr anthem loyw, lân i seintiau Crist a aeth o’n blaen; canlyn y Brenin wnaent yn rhydd ac ennill miloedd […]
Crist yw ngwobr i A gwrthrych fy nefosiwn A does dim byd arall sydd All fyth modloni i. Treialon ddaw Ond canaf fi, Heb droi yn ôl, Rwy’n gwbl rydd! Crist yw fy mhopeth i Crist yw fy mhopeth i Ti yw’r cwbl oll dwi angen, Ti yw’r cwbl oll. Crist fy mhopeth wyt, Llawenydd […]
Cudd fy meiau rhag y werin, cudd hwy rhag cyfiawnder ne’; cofia’r gwaed un waith a gollwyd ar y croesbren yn fy lle; yn y dyfnder bodda’r cyfan sy yno’ i’n fai. Rho gydwybod wedi ei channu’n beraidd yn y dwyfol waed, cnawd a natur wedi darfod, clwyfau wedi cael iachâd; minnau’n aros yn fy […]
Cuddia fi yn dy gôl, Gwarchod fi yn dy ddwylo cryf, Pan fo’r storm yn curo wrth fy nrws Byddi yn fy nghodi atat ti, Arglwydd fe ddistewaf yn dy law, Ymddiriedaf ynot ti, fy Nhad. Rwy’n gorffwys nawr, yng Nghrist ei hun Yn profi’i nerth, wrth bwyso arno Ef Rwy’n llawenhau, ynot ti Heb […]
Cul yw’r llwybyr imi gerdded, is fy llaw mae dyfnder mawr, ofn sydd arnaf yn fy nghalon rhag i’m troed fyth lithro i lawr: yn dy law y gallaf sefyll, yn dy law y dof i’r lan, yn dy law byth ni ddiffygiaf er nad ydwyf fi ond gwan. Dysg im gerdded drwy’r afonydd, Na’m […]
Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]