Ddiddanydd anfonedig nef, fendigaid Ysbryd Glân, hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân. Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn, gwêl a oes ynom bechod cudd ar ffordd dy ddawn. Cyfranna i’n heneidiau trist orfoledd meibion Duw, a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw. Am wanwyn Duw dros anial […]
Priodas Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch ar ddechrau’u hoes ynghyd, ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. Bendithia di eu cartref hwy â’th bresenoldeb glân, dy hedd fo’u gwledd i’w cynnal drwy bob dydd, a’i droi yn gân. Rho iddynt nerth bob cam o’r daith ac arwain hwy, O Dduw, i’th […]
Dduw Iôr ein tadau, nefol Dad, O achub a sancteiddia’n gwlad; cysegra’n dyheadau ni i geisio dy ogoniant di. Ein tŵr a’n tarian ar ein taith a’n t’wysog fuost oesoedd maith; rhoist yn ein calon ddwyfol dân ac yn ein genau nefol gân. O atal rwysg ein gwamal fryd a gwared ni rhag twyll y […]
Dduw’r gogoniant, molwn d’enw di, Frenin nef a daear lawr. Dyrchafwn glod i ti Ac fe addolwn, molwn, d’enw di Dyrchafu wnawn. Mewn nerth yn ddisglair Frenin tragwyddol, Teyrnasu rwyt yn y gogoniant. Dy air sy’n nerthol Yn gollwng caethion. Graslon dy gariad, Ti yw fy Nuw. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Catrin Alun (God of glory, […]
Dechrau canu, dechrau canmol – ymhen mil o filoedd maith – Iesu, bydd y pererinion hyfryd draw ar ben eu taith; ni cheir diwedd byth ar sŵn y delyn aur. Yno caf fi ddweud yr hanes sut y dringodd eiddil, gwan drwy afonydd a thros greigiau dyrys, anial, serth i’r lan: Iesu ei hunan gaiff […]
Dechreuwch, weision Duw, y gân ddiddarfod, bêr; datgenwch enw mawr a gwaith a gras anhraethol Nêr. Am ei ffyddlondeb mawr dyrchefwch glod i’r nen: yr hwn a roes addewid lawn yw’r hwn a’i dwg i ben. Mae gair ei ras mor gryf â’r gair a wnaeth y nef; y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif roes […]
Deffro ‘nghalon, deffro ‘nghân i ddyrchafu clodydd pur yr Arglwydd glân, f’annwyl Iesu; uno wnaf â llu y nef â’m holl awydd i glodfori ei enw ef yn dragywydd. Crist yw ‘Mhrynwr, Crist yw ‘Mhen, a’m Hanwylyd, Crist yw f’etifeddiaeth wen, Crist yw ‘mywyd, Crist yw ‘ngogoneddus nef annherfynol: gwleddaf ar ei gariad ef yn […]
Deisyfwn am dy fendith fawr yn awr i’r ddau a unwyd, bydd di, yr Hollalluog Dduw, yn llyw i serch eu bywyd. Ar eu hadduned rho dy sêl ac arddel eu hymrwymiad, ac anfon di y gawod wlith yn fendith ar eu cariad. Arhosed haul dy gariad mwy ar fodrwy eu cyfamod, a thywys hwy […]
Derbyn fy niolch gwir am fy achub i; Rhof fi fy hun yn llwyr i foli d’enw di. Tywelltaist ti dy waed i’m puro i; Fy mhechod i, a’m gwarth, a roddwyd arnat ti. F’Arglwydd a’m Duw, F’Arglwydd a’m Duw! Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd; Caf weld dy wedd ryw ddydd. Gras a […]
Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn blant bach i’w freichiau ef ei hun: “Ac na waherddwch hwynt,” medd ef, “cans eiddynt hwy yw teyrnas nef.” O’n bodd dilynwn ninnau nawr esiampal gu yr Iesu mawr: pwy gaeai ddrws ei eglwys ef a’r Iesu’n agor drws y nef? THOMAS WILLIAMS, 1771-1845 (Caneuon Ffydd 642)