Daeth Prynwr dynol-ryw yn fyw o’i fedd a disglair ddelw Duw yn harddu’i wedd; dymchwelodd deyrnas gaeth hen deyrn marwolaeth du: rhaid ydoedd rhoi rhyddhad i’n Ceidwad cu. Gwnaeth waith y cymod hedd mewn llwyredd llawn, mae’i feddrod gwag yn dweud ei wneud yn Iawn; trwy’r codi rhoes y Tad fawrhad ar Galfarî, a thorrodd […]
Dewch i’w weld, dewch i’w weld, Frenin cariad, dewch i’w weld; Gwelwch goron ddrain a gwisg o borffor drud. Creulon groes ar ei gefn, Gwawd y milwyr, gwaedd y llu, Unig ac heb gyfaill, dringa at y bryn. Addolwn wrth dy draed, Man cwrdd i lid a hedd, Ac fe olchir euog fyd gan gariad […]
Diolch am Y Groes, Y pris a dalaist ti. Rhoddaist ti dy hun, Rhoi y cyfan, Werthfawr Iôr, (werthfawr Iôr). Ein pechodau ni A faddeuwyd, Cuddiwyd gan dy waed, fe’u hanghofiwyd, Diolch Iôr, (diolch Iôr). O, fe’th garaf di, Arglwydd caraf di, Alla’i fyth a deall Pam y ceri fi. Ti yw ‘nghyfan oll, Llanw […]
‘Does destun gwiw i’m cân ond cariad f’Arglwydd glân a’i farwol glwy’; griddfannau Calfarî ac angau Iesu cu yw ‘nghân a’m bywyd i: Hosanna mwy! Caniadau’r nefol gôr sydd oll i’m Harglwydd Iôr a’i ddwyfol glwy’; y brwydrau wedi troi, gelynion wedi ffoi sy’n gwneud i’r dyrfa roi Hosanna mwy! O wyrthiau’i gariad ef! Ni […]
Dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw; dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw. Daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn; daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn. Fe gymerodd blant […]
Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn tu faes i fur y dref lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt o’i fodd i’n dwyn i’r nef. Ni wyddom ni, ni allwn ddweud faint oedd ei ddwyfol loes, ond credu wnawn mai drosom ni yr aeth efe i’r groes. Bu farw er mwyn maddau bai a’n gwneud bob un […]
Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd, fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd, fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw, fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw! Cyhoedder y gair, atseinier y sôn, a thrawer y salm soniarus ei thôn, dywedwch wrth Seion alarus a gwyw am sychu ei dagrau, mae’r Iesu […]
Fe’i harchollwyd am ein troseddau, A thros ein hanwireddau ni; Pris ein heddwch ni roddwyd arno, A chawsom ni lwyr iachad. Fe’i harweiniwyd ef i’r lladdfa, Cymerodd ef ein beiau ni; Ac o dir y byw fe’i torrwyd, Yr un di-fai drosom ni. Crwydro wnaethom ni bob un, Aethom bawb i’w ffordd ei hun, Ac […]
Fy meiau trymion, luoedd maith, a waeddodd tua’r nen, a dyna pam ‘roedd rhaid i’m Duw ddioddef ar y pren. Hwy a’th fradychodd, annwyl Oen, hwy oedd y goron ddrain, hwy oedd y fflangell greulon, gref, hwy oedd yr hoelion main. Fy meiau oedd y wayw-ffon drywanai’i ystlys bur, fel y daeth ffrwd o dan […]
Fy Nhad, dy gariad di A dalodd drosof fi, I mi, yr euog un Fynd yn rhydd! Rhyfeddod nef, o’r fath gariad, Ei fywyd Ef drosof fi. O gariad rhad – marw yn fy lle, I mi gael byw, i mi gael byw. Yr Un ar groes o bren, Fab Duw, wrthodwyd. Ond o, ei […]