Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr; a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud fel afon gref, lifeiriol dros y byd. […]
Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes i garu’r hwn fu ar y groes, mae mwy o bleser yn ei waith na dim a fedd y ddaear faith. Cael bod yn fore dan yr iau sydd ganmil gwell na phleser gau, mae ffyrdd doethineb oll i gyd yn gysur ac yn hedd o hyd. O boed im dreullo […]
D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu, Gad i’w fawl gwmpasu’r holl fyd; Dos a d’wed wrth bobloedd y gwledydd Fod Iesu Grist yn fyw. Dod i’r preseb, mynd i’r bedd, Dod i’r stabal, mynd i’r groes. Fe roes ei fywyd Ef yn aberth drosom oll; Fe ddaeth o’i orsedd fry i gadw dynion coll, […]
Da yw bod wrth draed yr Iesu ym more oes; ni chawn neb fel ef i’n dysgu ym more oes; dan ei groes mae ennill brwydrau a gorchfygu temtasiynau; achos Crist yw’r achos gorau ar hyd ein hoes. Cawn ei air i buro’r galon ym more oes, a chysegru pob gobeithion ym more oes; wedi […]
Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef, da yw Duw, fe ddathlwn ni: da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym, da yw Duw, hyn wyddom ni. Llenwi â mawl mae fy nghalon i am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio: ac yn ei galon mae lle i mi, rhedeg wnaf â’m breichiau ar […]
Da yw Duw! Da bob dydd! Fe roddodd gân o fawl yn fy nghalon i; Da yw Duw, da bob dydd, Try dywyllwch nos yn olau dydd; Da yw Duw, da yw Duw, da bob dydd. Pan yn cerdded yn y dyffryn A rhyw gysgodion dros y lle, Nid oes ofn, Duw sy’n arwain, Rwyt […]
Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau heb hidio dim am newyn ein heneidiau; maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau gwir Fara’r Bywyd. Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni, yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu; maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu Ffynnon y Bywyd. Cod ni, O Dduw, o […]
Da yw y groes, y gwradwydd, Y gwawd, a’r erlid trist, Y dirmyg a’r cystuddiau, Sydd gyda Iesu Grist; Cans yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A thrysor yn ei gariad Sy fwy na’n daear ni. (W.W.) Rho brofi grym ei gariad Sy’n annherfynol fôr, I’m tynnu tua’r bywyd, Fy […]
Dacw gariad nefoedd wen Yn disgleirio ar y pren; Dacw daledigaeth lawn I ofynion trymion iawn; Iesu gollodd ddwyfol waed, Minnau gafodd wir iachâd. Na ddoed gwael wrthrychau’r byd I gartrefu yn fy mryd; Digon f’enaid, digon yw Myfyrdodau dwyfol friw; Mae mwy pleser yn ei glwy’ Na’u llawenydd pennaf hwy. William Williams, Pantycelyn (Y […]
Dacw gariad, dacw bechod, Heddiw ill dau ar ben y bryn; Hwn sydd gryf, hwnacw’n gadarn, Pwy enilla’r ymgyrch hyn? Cariad, cariad Wela’i ‘n perffaith gario’r dydd. Dringa’ i fyny i’r Olewydd, I gael gweled maint fy mai; Nid oes arall, is yr wybren, Fan i’w weled fel y mae; Annwyl f’enaid Yno’n chwysu dafnau […]